Gwrando Dwyfol
Ym mis Mehefin, comisiynodd yr Esgob grŵp newydd o Gyfarwyddwyr Ysbrydol (neu Gymdeithion Ysbrydol) ar gyfer yr Esgobaeth. Pa gymorth allan nhw ei roi?
Mae Cyfarwyddyd Ysbrydol wedi’i ddiffinio fel dawn i wrando’n ddwyfol. Mae’n cynnig lle diogel a sanctaidd i rywun archwilio gweddi a galwad Duw gyda chymorth rhywun arall sydd ar yr un daith. Mae’n arwain at ymwybyddiaeth ddyfnach o’r hunan ac o Dduw ymhob rhan o fywyd. Gellir ei gynnig mewn sawl dull a modd, a cheir elfennau ohono mewn grwpiau tai, celloedd ymarfer myfyrgar, perthynas â chyfeillion doeth ac ym mywyd ac addoli arferol yr eglwys.
Fodd bynnag, gall rhai unigolion a phobl ar adegau penodol o’u bywyd ddymuno cael dull mwy disgybledig ac unigol o gyfarwyddyd ysbrydol nag y gall bywyd beunyddiol yr eglwys ei gynnig iddynt. Mae hyn yn arbennig o wir i’r sawl sy’n ystyried galwedigaeth, pobl mewn gweinidogaeth gyhoeddus a’r rhai sy’n cynnig cyfarwyddyd ysbrydol i eraill.
Mae gan Esgobaeth Tyddewi gymuned o gyfarwyddwyr ysbrydol sy’n cynnig y math hwn o wrandawiad dwyfol. Cynigir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim, nid ydynt yn disgwyl nac yn derbyn tâl. Mae’n gyfrinachol ac yn Gristnogol, er nad yn Anglicanaidd o reidrwydd. O ran cynllun, y bwriad yw bod y grym yn y berthynas yn aros ym meddiant y sawl sy’n chwilio am arweiniad. Gall ddod â’r berthynas i ben unrhyw bryd. Mae’r sawl sy’n cynnig arweiniad drwy’r Esgobaeth yn dilyn cod ymddygiad sy’n gydnabyddedig ar lefel y Dalaith yn ogystal â lefel yr Esgobaeth.
Os hoffech gael gwasanaeth gan Gyfarwyddwr Ysbrydol, mae croeso i chi gysylltu â’r Tad Andrew Johnson trwy anfon e-bost i frandrewj@outlook.com. Dyma’r cyfeiriad i’w ddefnyddio hefyd os hoffech gynnig eich gwasanaeth fel cyfarwyddwr ysbrydol yn y modd hwn.