Gofal Ein Gwinllan
Lansio ail gyfrol ‘Gofal ein Gwinllan’ yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024
Cafwyd sesiwn hwylus iawn ar brynhawn Gwener, Awst 9fed, pan lansiwyd y gyfrol a gyhoeddir gan Y Lolfa ar ran Athrofa Padarn Sant a’r Eglwys yng Nghymru. Roedd anerchiadau gan rai o gyfranwyr i’r gyfrol, yn cynnwys yr Athro Prys Morgan, a chadeiriwyd y sesiwn gan Canon Ddr Ainsley Griffiths.
Y mae 16 traethawd, yn trafod cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes a diwylliant Cymru yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae’r llyfr, a olygwyd gan yr Athro Densil Morgan a Dr A Cynfael Lake yn cynnwys archwiliad o’r cysylltiad Methodistaidd, twf ysgolheictod, mudiad yr Eisteddfod a chyfraniad cynyddol merched. Ceir hefyd drafodaeth am lenorion emynau, beirdd a noddwyr diwylliannol.
Ysgrifennwyd y rhagair gan Esgob Tyddewi, Dorrien Davies, sy’n cymeradwyo’r gyfrol yn gynnes i ddarllenwyr.
Gellir archebu’r llyfr ar lein yn ylolfa.com neu o siopau llyfrau da.