Dod o hyd i’r llwybr cywir
Sally Williams sy’n disgrifio pwysigrwydd y Gymrodoriaeth Galwedigaeth ar ei thaith i gael ei hordeinio’n ddiacon newydd.
Fel y gŵyr llawer sydd wedi cael galwad i wasanaethu – ym mha ffordd bynnag - mae’r daith weithiau’n serth ac yn aml yn ddryslyd. Ond dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r Gymrodoriaeth Galwedigaeth wedi bod yn gefnogaeth weddigar, yn gydymaith cadarn ac yn anogwr cyfeillgar i sawl un sydd wedi troedio’r ffordd honno ac sy’n dal i deithio tuag at ei alwad.
Y nod nid yn unig yw arwain pobl i’r weinidogaeth ordeiniedig ond i fod yn rhywle y gall y rhai sy’n teimlo galwad Duw ddod o hyd i gymorth, rhywle i drafod eu teimladau a mynegi union natur galwad Duw yng nghwmni pobl o’r un anian a chaplaniaid sydd wedi cerdded y llwybr o’u blaenau. Mae rhai aelodau yn rhan o’r Gymrodoriaeth Galwedigaeth am ychydig fisoedd, eraill yn ymuno a gadael yn ôl ac ymlaen, gyda rhai yn aros yn hirach; ond mae taith pob unigolyn yn werthfawr, yn unigryw ac yn bwysig.
Pan wnes i ymuno â’r Gymrodoriaeth Galwedigaeth ddeng mlynedd yn ôl, roeddwn i’n weddol sicr fy mod i’n cael fy ngalw i ryw fath o weinidogaeth, ond roedd union ffurf y weinidogaeth honno’n dal yn niwlog. I mi ac i lawer, mae’r daith wedi arwain at ordeinio, ond roedd bod yn rhan o’r gymrodoriaeth yn fy ngalluogi i lywio’r llwybr troellog a dysgu deall bod y daith ei hun yn llawn mor bwysig â’i phen draw - ac weithiau’n bwysicach, gan fod angen i chi fod ar y ffordd iawn i gyrraedd y lle iawn!
Wrth ymuno â’r Gymrodoriaeth Galwedigaeth, rydych chi’n dod yn rhan o grŵp caplaniaeth sy’n cyfarfod i rannu bwyd, i wrando ar eich gilydd ac i weddïo dros eich gilydd.
Yn ystod fy nghyfnod yn y Gymrodoriaeth Galwedigaeth, rydw i wedi gwneud ffrindiau gwych y bu’n fraint i fi rannu’r daith â nhw; rydyn ni wedi chwerthin a chrio gyda’n gilydd, wedi profi uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond drwy’r cyfan, drwy drafod y trafferthion a’r rhwystrau gyda grŵp gwych o gyd-deithwyr, rydw i wedi cyrraedd lle’r ydw i bellach, yn ddiacon Gweinidogaeth Di-gyflog Leol sy’n gwasanaethu yn Ardal Weinidogaeth Leol Daugleddau.
Bellach, a minnau’n ddiacon, rydw i wedi gadael y Gymrodoriaeth, ond bydd ganddi le arbennig iawn yn fy nghalon am byth. Os ydych chi’n teimlo llaw Duw yn eich gwthio i wneud rhywbeth, byddwn yn eich annog i fwrw iddi (er y gallai fod yn rhywbeth bach yn eich golwg chi). Siaradwch â’ch clerigion lleol; fe fyddan nhw’n gweddïo gyda chi a drosoch chi, a’ch rhoi chi mewn cysylltiad â’r Parchedig Sophie Whitmarsh sy’n arwain y gymrodoriaeth ac yn cydlynu’r grwpiau.