Dyddiadur 'ffeirad wedi ymddeol
Pwy ddywedodd fod mordeithio yn syml? Mae Christopher Lewis-Jenkins yn darganfod fel arall ar ei fordaith ddiweddaraf.
Felly, cefais e-bost gan y Missions to Seafarers: allwch chi hwylio mewn pythefnos? Am banig! Lle, am ba hyd, lle rydyn ni'n ymuno â’r llong ac ati?
Rydych chi'n hedfan allan i Cape Town trwy Frankfurt ac yn ymuno â llong fordaith yr Ambience, un o longau fflyd yr Ambassador. Gadewch eich car yn Tilbury ac ewch i Heathrow i ymuno â'ch awyren. Swnio'n ddigon hawdd ... ond nid felly y bu.
Yn gyntaf oll, dyw maes parcio Tilbury ddim ar agor oni bai bod llong yn y porthladd felly, prin ddeuddydd cyn gadael, bu'n rhaid i ni drefnu trafnidiaeth gyhoeddus i Heathrow. Tacsi i Tesco Doc Penfro a National Express i Heathrow wedyn, ond bu’n rhaid i ni achub coets NE arall oedd wedi torri lawr ar y ffordd, a derbyn y teithwyr hynny.
Yna roedd rhaid aros i'r heddlu gyrraedd i gau'r lôn draffordd brysur iawn er mwyn caniatáu i ni dynnu allan a pharhau â'n taith, gan boeni nawr y bydden ni’n colli ein hawyren. Ond, o fewn trwch blewyn, fe lwyddon ni i ddal yr awyren i Frankfurt ac ymlaen i Cape-Town.
Am groeso hyfryd i Dde Affrica, nid y swyddogion mewnfudo surbwch arferol, ond gwên o glust i glust. Daeth cynrychiolydd o'r llong i’n cyfarfod ni a chawsom dacsi i'r llong wedyn. Nawr, efallai eich bod yn meddwl bod y cyfan yn ddigon rhwydd, ond na – cwta bythefnos oedd yna i wneud popeth o baratoi gwasanaethau, emynau a phregethau, i drefnu popeth mae gwasanaethu teithwyr ar fwrdd llong yn ei olygu.
Beth bynnag, roedd y cyfan yn y pen draw yn ddigon hwylus gyda’r Weddi Foreol bob dydd, Offeren ar y Sul, gwasanaeth Iachau a Chyflawnrwydd, gwasanaeth canu emynau cynulleidfaol ‘Songs of Praise’ ac amser tawel ar ôl y gwasanaethau i unrhyw un a oedd am gael sgwrs bersonol gyda mi ar unrhyw fater oedd yn eu poeni. Hefyd, fe wnes i gynnal gwasanaeth ANZAC i goffáu lluoedd Awstralia a Seland Newydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.
Ein taith oedd Cape Town i Tristan Da Cunha, ynysoedd Cape Verde, Rio de Janeiro, Salvador a Recife (hefyd ym Mrasil), Casablanca ym Moroco, Lisbon ym Mhortiwgal ac yna adre i Tilbury. 31 diwrnod gwych. Llawer o heulwen ond yr unig beth a brynais ym Mrasil oedd ymbarél gan iddi arllwys y glaw yn Recife. Ces fy atgoffa o gartref.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y fordaith nesaf. Pwy a ŵyr pryd - neu lle - fydd hynny?