Dyddiadur gwraig Person
Sganio’r Gorwel
Polly Zipperlen ar ymadroddion corfforaethol
Tua 18 mis yn ôl, defnyddiodd un o’m ffrindiau yr ymadrodd hwn, gan gyfeirio at yr hyn y gallai entrepreneuriaid 'cwmpas-rhithwir' ei wneud cyn buddsoddi arian mewn menter newydd, reit fentrus o bosibl. Mae'n bendant yn addas ac rwy'n ei ddefnyddio o bryd i'w gilydd mewn cyfarfodydd wrth awgrymu bod y grŵp yn edrych ar strategaethau sefydliadau eraill ar gyfer amcanion tebyg.
Ond rwy’n chwerthin i mi fy hun wrth ei ddefnyddio er, ychydig gyda’m tafod yn fy moch, gan gofio ymadroddion corfforaethol ffasiynol blaenorol. Mae "meddwl y tu allan i'r bocs" yn dod i'r meddwl, sydd wastad wedi gwneud i mi feddwl, sut beth fyddai meddwl y tu mewn i'r bocs? Onid yw'r ymadroddion hyn yn awgrymu ein bod yn edrych i fyny o’r fan lle rydyn ni ac yn archwilio y tu hwnt i'r paramedrau? Siawns ei fod yn fan cychwyn amlwg cyn cychwyn ar unrhyw fenter?
Ond sut ydyn ni'n gwybod lle mae ymylon ein 'bocsys'? O bosib, ein 'bocsys' yn syml fydd ein traddodiadau neu ein diwylliannau neu’r arferion rydyn ni i gyd yn ceisio cysur ynddyn nhw. Er enghraifft, yn ein teulu ni, byddwn yn aml yn trefnu ein gwyliau, gan aros y noson neu ddwy ddiwethaf yn ein hoff faes gwersylla ar Arfordir Gogledd Ffrainc. Mae Marcus a minnau wedi bod yn aros yno ers tua 25 o flynyddoedd, ac rydyn ni wedi mynd â'r bechgyn yno bron iawn bob blwyddyn ers iddyn nhw gael eu geni.
Mae'r maes gwersylla yn cael ei redeg gan deulu sydd â gefeilliaid un ffunud, ac rydyn ni wedi’u gweld yn tyfu o fod yn bobl ifanc yn eu harddegau i fod yn ddynion sydd bellach yn rhedeg y busnes gyda'u gwragedd a'u plant. Cymerodd amser i ni sylweddoli, pe bai'r maes gwersylla hwn yn y DU, na fydden ni erioed wedi camu dros y rhiniog, oherwydd na fyddai’r adloniant nosweithiol swnllyd a'r farchnad ddyddiol wedi bod at ein dant. Yn aml, ni yw'r unig bobl o Brydain sy'n aros yno ac, un flwyddyn, roedden ni’n amlwg yn destun rhywfaint o anghrediniaeth wrth i westeion o Ffrainc ofyn i ni a oedden ni ar ein gwyliau yno go iawn. Dwi ddim yn gwybod beth arall y bydden ni wedi bod yn ei wneud yno!
Dwi’n hoffi meddwl fy mod i'n ferch sy’n meddwl y tu allan i'r bocs ond mewn gwirionedd, mae'n rhaid fod gen i focs siâp gwahanol. Wrth dyfu i fyny, ochrau fy mocs oedd yr M25 i raddau helaeth iawn ac erbyn hyn maen nhw’n cael eu diffinio gan bobl. Ar daith wersylla ddiweddar gyda ffrindiau, roedd fy ymylon yn teimlo ychydig yn gam yn sgil absenoldeb Marcus a'r bechgyn. Ond mae'n anochel bod newid ar droed, wrth i Sonny ddechrau ar ei flwyddyn Lefel A ac mae wedi bod yn gwneud rhywfaint o Sganio’r Gorwel ei hun...