Teulu Dewi
David Hammond-Williams sy’n edrych ymlaen at Gynhadledd yr Esgobaeth
Hir yw pob aros, ond mae'r gynhadledd eleni yn dychwelyd i Ganolfan Halliwell ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Ond mae'r dyddiad yr un fath ag erioed - Sadwrn cyntaf mis Hydref.
Mae tri phwnc yn debygol o hawlio’r sylw. Yn gyntaf, bydd adroddiad o'r Gynhadledd Anghyffredin a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf yn taflu goleuni ar Strategaeth newydd yr Esgobaeth newydd, Tocio am Dyfiant. Bydd y cyfarfodydd a gafodd eu haddo yng Ngham Un y broses yn mynd rhagddynt erbyn i'r aelodau gyfarfod felly bydd yn gyfle i gael adroddiad cynnydd.
Prif fusnes y dydd, serch hynny, fydd lansiad y Flwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, y pumed mewn cyfres sydd wedi cofleidio gweddi, bod yn ddisgybl, pererindod ac – yn fwyaf diweddar – Halen a Goleuni.
Bydd Cenhadwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr esgobaeth, y Parchedig Sophie Whitmarsh, yn bresenoldeb amlwg a bydd yn cyflwyno'r syniad a'r cynlluniau ar gyfer y deuddeg mis nesaf, gan ddechrau ar Sul yr Adfent. Ond bydd cyfle i'r aelodau drafod pob agwedd dan haul, a bydd sesiwn lawn yn dilyn. Bydd sesiynau briffio hefyd ar gyfer sefydliadau rhanddeiliaid.
Mae disgwyl i'r Esgob Dorrien hefyd lansio menter newydd, Agored i Dduw II, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod y Sulgwyn yn 2026. Mae am ailadrodd rhywbeth a gynhaliwyd yn wreiddiol dan arweinyddiaeth ei ragflaenydd - a'i fentor – yr Esgob George Noakes 40 mlynedd yn ôl. Y nod yw ailfywiogi'r esgobaeth a'i hymdeimlad o Genhadaeth mewn digwyddiad o ddathlu a diolchgarwch. Bydd gweithgor yn mynd ati i drafod y manylion yn ystod y misoedd nesaf.