Arwyr ein Mynwentydd
Mae lle arbennig yn ein calonnau i’r fuwch goch gota, gyda’i gwisg smotiog llawn steil a swyn. Ac mae rheswm da am hynny, fel yr esbonia Harriet Carty o elusen gadwraeth Gofalu am Erw Duw/Caring for God’s Acre.
Prin iawn yw’r pryfed, ar wahân i’r glöyn byw efallai, sy’n ennyn cymaint o emosiynau cadarnhaol ac ofergoeliaeth â’r fuwch goch gota. Mae llawer o ddiwylliannau yn credu eu bod yn symbol o lwc dda ac o ddechreuadau newydd. A dweud y gwir, mae’r gred bod buchod coch cwta yn gysylltiedig â rhinweddau cadarnhaol yn gyffredin bron iawn ym mhobman – o ddiwylliannau Slafaidd, Ewropeaidd ac Asiaidd i gredoau Americanwyr Brodorol.
Mae 46 o wahanol rywogaethau o fuchod coch cwta yn y DU, a thua 5,000 ledled y byd. Er bod rhai’n dilyn y drefn glasurol, coch gyda smotiau du, mae eraill yn wahanol fathau o felyn ac oren, ac mae rhai yn ddu gyda smotiau coch hyd yn oed.
Mae mynwentydd yn gallu bod yn llefydd gwych i fuchod coch cwta oherwydd eu bod yn tueddu i fod yn rhydd o bryfleiddiaid ac yn llawn bwyd. Mae llawer ohonyn nhw’n deor o chwilerod ym mis Awst neu fis Medi, felly cadwch lygad am genhedlaeth newydd o oedolion sy’n porthi’n brysur cyn gaeafu. Mae buchod coch cwta yn ysglyfaethwyr brwd, yn awchu am bryfed gleision a chwilod gardd (a mynwent) eraill, a thrwy hynny’n cynnig ffordd naturiol o reoli plâu a chadw planhigion yn iach. Yn ystod ei hoes, gall un fuwch goch gota lyncu hyd at 5,000 o bryfed gleision a phryfetach eraill sy’n difa planhigion, sy’n golygu eu bod yn gymorth amhrisiadwy i arddwyr, ffermwyr a wardeiniaid eglwys fel ei gilydd.
Mae sawl lle diogel ar gael iddyn nhw aeafgysgu, yn aml mewn clystyrau mawr lle maen nhw’n parhau i fod yn segur tan tua mis Mawrth, cyn iddyn nhw ddeffro i fwydo a magu unwaith eto. Mae henebion gan gynnwys cistfeddau, bylchau rhwng gwreiddiau coed, pentyrrau pren, o dan risgl rhydd, gwasarn deiliog, glaswellt twmpathog a waliau cerrig yn cynnig llu o gyfleoedd i dreulio’r gaeaf.
Gyda’u cyrff crwn a’u marciau unigryw, mae’n hawdd adnabod buchod coch cwta. Os ydych chi’n gweld buwch goch gota, tynnwch lun, cyfrwch ei smotiau a gwnewch nodyn o liwiau’r corff a’r smotiau. Dull o nodi’r rhywogaeth yw nifer y smotiau, nid arwydd o oed y chwilen, fel y cred rhai. Rhowch wybod i ni beth welwch chi yn eich mynwent leol a mwynhewch chwilio am y creaduriaid eiconig hyn.