Hanesion plentyndod ficerdy
Trip! Eluned Rees recalls happy days at the seaside
Roedd y trip Ysgol Sul blynyddol bob haf yn uchafwbynt cyffrous. Waeth sawl gwyliau teuluol byddem yn eu cael, roedd un diwrnod gyda’n ffrindiau yn well fyth. Cymaint oedd ein cyffro nes bod Enfys a fi’n ysgrifennu ‘Trip’ ar ddarn o bapur, a’i roi ar ein llygaid cyn cysgu, er mwyn ei weld peth cyntaf wedi dihuno! Fel arfer, os cofiaf, buom yn lwcus i gael tywydd braf, a byddem yn cwrdd â phlant o blwyfi eraill yno yn aml.
Llun: Archifau Morgannwg
Byddai trefnu bws mawr, i gario plant a’u rhieni, yn eitha tasg, a dewis ble fyddai’r trip hefyd yn anodd i blesio pawb. Roedd y gwragedd hŷn yn dal i wisgo’u hetiau dydd Sul, hyd yn oed i lan y môr. Mae’n siŵr gyda fi bod miloedd o blant y De wedi bod ym Mhorthcawl/Y Barri/Dinbych y Pysgod sawl gwaith. Os Sir Benfro, teimlwyd y dylem fynd i’r Eglwys Gadeiriol, ond, i fod yn onest, roedd apêl y ffair ym Mhorthcawl, gyda’r bympers, Cakewalk a’r Watershoot lawer yn fwy. Roedd yr oedolion yn eistedd yn y blaen ar y bws, gyda brechdanau yn barod am ein cinio. Doedd dim arian, na thraddodiad, i fwyta mewn caffi, a does dim tebyg i ‘sandwiches’ yn llawn ‘sand’ ar draeth., gyda thermos o de.
Nid yw Enfys na minnau yn ddewr iawn am ddringo’n uchel a chofiaf ein mam unwaith yn gorfod gofyn i ddyn stopio’r reid gan ein bod ein dwy yn sgrechian llefen. Does dim llawer wedi newid! Ond doedd y Ghost Train ddim yn ein gofidio, ac byddem i gyd yn mwynhau’r sgrechian bryd hynny.
Hufen iâ yn y Barri, Knickerbocker Glory ym Mhorthcawl, ac aros ar y ffordd adre am sglodion yn Cross Hands. I blant y wlad, roedd hyn yn nefoedd. Dwyf fi ddim yn cofio bod llawer o salwch na gorfod aros wrth ochr ffordd. Roedd tipyn llai o draffig, wrth gwrs, cyn dyfod yr M4.
Erbyn ein harddegau, a dyfod y Clwb Ieuenctid, dan ofal dewr fy nhad, roedd naws wahanol yn y bws. Roedd yr hormonau’n tasgu, tipyn o labswchan, ys dywedon nhw, ac roedd rhaid cadw llygad na fyddai’r rhai hynaf yn mentro i dafarn neu glwb cyn y daith adre.
Fy mhroblem fwyaf erbyn hyn oedd dewis beth i’w wisgo. Gallaf gofio sandalau newydd yn pinsho am y tro cyntaf o’u gwisgo. A fuon ni yn y môr? Meddyliwch am y cyfrifoldeb ar ein harweinydd, sef fy nhad, na fu erioed yn y môr drwy’i fywyd. Chofia i ddim.