Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Swyddog Iaith Newydd yr Esgobaeth

Swyddog Iaith Newydd yr Esgobaeth

Dewi Roberts

Mae gweithdai wedi’u cynllunio ar gyfer yr hydref eleni i helpu clerigion a lleygwyr sy’n dymuno gwella a magu hyder yn eu defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau. Eglura Swyddog Dwyieithrwydd newydd yr esgobaeth, Dewi Roberts.

Rwy’n ei ystyried yn fraint i gael y gwahoddiad gan Esgob Dorrien i fod yn Swyddog Iaith yr esgobaeth. Ar ôl derbyn y gwahoddiad, rwyf wedi bod yn pendroni sut i wneud y mwyaf o'r anrhydedd a'r cyfle hwn.

Hoffwn gychwyn fy sylwadau trwy eich atgoffa bod yr Eglwys yng Nghymru yn eglwys ddwyieithog lle mae gan y Gymraeg a’r Saesneg statws cyfartal. Mae gan blwyfolion hawl i dderbyn cymun, bedydd, priodas a chladdu yn eu dewis iaith. Mae Cynllun Iaith yr Eglwys yng Nghymru (2008) yn annog holl eglwysi'r Dalaith i ddefnyddio cymaint o Gymraeg “ag sy’n briodol o dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol” o fewn eu cyd-destun, ac i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn weladwy, nid yn unig yn yr eglwys, ond hefyd ar arwyddion, taflenni gwasanaeth a gwefannau. Rwy’n gobeithio y gallwn hyrwyddo agwedd gadarnhaol yn ein defnydd o'r Iaith Gymraeg a sylweddoli bod y defnydd o'r Gymraeg nid yn unig yn fuddiol ond yn elfen allweddol o'n cenhadaeth dros Grist.

Rwy’n ymwybodol bod y defnydd o'r Gymraeg yn amrywio dros yr esgobaeth, a bod clerigion a lleygwyr yn amrywio yn eu gallu i arwain gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac er bod awydd gan glerigion, darllenwyr ac arweinwyr addoliad i arwain mwy o wasanaethau yn ddwyieithog, neu i gynnwys mwy o elfennau yn y litwrgi yn y Gymraeg, mae diffyg hyder neu diffyg hyfforddiant cyson yn dal nifer yn ôl yn eu defnydd o'r iaith. Felly, er mwyn cwrdd â’r angen am hyfforddiant cyson i gynorthwyo clerigwyr a lleygwyr i ynganu’r litwrgi yn Gymraeg bwriadaf drefnu nifer o sesiynau yn ystod tymor yr hydref eleni er mwyn i glerigion a lleygwyr fagu hyder wrth arwain gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os oes awydd gennych i gryfhau eich defnydd o’r Gymraeg gallwch gysylltu â mi drwy yr e-bost isod; a maes o law fe roddaf amseroedd a lleoliadau gweithdy/gwersi i chwi.

Hefyd, rwy’n awyddus yn y misoedd nesaf i ddarparu recordiad sain o bob rhan o'r litwrgi yn Gymraeg, gan gynnwys y colectau, i bwy bynnag sy’n dymuno clywed sut mae ynganu y litwrgi yn gywir yn Gymraeg.

Hoffwn nodi yn ychwanegol bod ‘Cynhadledd Gymraeg’ yn y broses o gael ei threfnu gan ‘Bwyllgor Iaith’ yr esgobaeth. Cewch wybod mwy wrth i'r trefniadau a'r paratoadau ar gyfer y Gynhadledd gael eu cwblhau.

Rwy’n edrych ymlaen i gyd-weithio gyda chwi oll. Gallwch gysylltu â mi drwy e-bost: dewiroberts@cinw.org.uk