Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Yn ôl i'r ysgol

Yn ôl i'r ysgol

Bedwar mis i mewn i'w rôl newydd fel Tiwtor Cenhadaeth, mae Alun Evans wrth ei fodd yn symud o'r pulpud i Athrofa Padarn Sant wrth i'r flwyddyn academaidd newydd agosáu.

Mae'n newid o fod yn offeiriad yn gweinidogaethu mewn Ardal Weinidogaeth Leol yn ein hesgobaeth, ond rwy'n mwynhau her gweinidogaeth mewn ffordd wahanol.

Yn union fel bod yn offeiriad plwyf, rwy'n cael gwneud llawer o bethau gwahanol. Mae rhan o'm rôl yn cynnwys cefnogi'r rhai sy'n paratoi ar gyfer gweinidogaethau lleyg ordeiniedig a thrwyddedig yn yr Eglwys yng Nghymru.

St Padarns Apprenticeships 2

Mae'n fraint o’r mwyaf cael teithio ochr yn ochr â'r rhai sy'n paratoi ar gyfer gwahanol weinidogaethau yn ein hesgobaeth a thu hwnt. Rhan arall gysylltiedig o'm rôl yw addysgu cenadaetheg (astudio cenhadaeth) ar yr ystod o raglenni y mae Athrofa Padarn Sant yn eu cynnal. Ac mae hyn yn rhywbeth rydw i wrth fy modd yn ei wneud! Roeddwn i'n athro ysgol cyn ymateb i'r alwad i fod yn offeiriad. Ac i mi mae'r alwad i ddysgu ac addysgu wedi bod yn rhan enfawr o'm hymdeimlad o alwedigaeth erioed.

Rhan arall o'm rôl yw ymgodymu â rhai o'r cwestiynau mawr am genhadaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Does dim byd pwysicach i'r Eglwys heddiw nag i fod yn rhannu efengyl Crist am gariad gyda'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Ond fel y mae llawer ohonom yn ymwybodol, mae cenhadaeth yn her am lu o wahanol resymau, ac felly mae'n gyffrous gallu mynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau pwysig hyn.

Un o'r uchafbwyntiau hyd yma yw bod yn rhan o Wythnos Ysbrydolrwydd ar gyfer yr ordinandiaid llawn amser yn Nant Gwrtheyrn ym mhen Llŷn. Cafodd yr ordinandiaid gyfle i fyfyrio ar eu teithiau ffydd, i feddwl am bwysigrwydd lle a phererindod, yn ogystal â dysgu am weinidogaeth a chenhadaeth yn y rhan hon o'r byd lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg. Ymunodd yr Esgob David Morris (Esgob Enlli) â ni am ran o'r wythnos.

Ar y cyfan, cafodd yr ordinandiaid amser gwych, gan ddysgu cryn dipyn. Ond i mi, un o'r pethau rydw i wedi dod i'w werthfawrogi'n ddyfnach diolch i’r Wythnos Ysbrydolrwydd, a thrwy gymryd rhan mewn addysgu ar fodiwl efengylu ôl-raddedig, fu arwyddocâd enfawr ein seintiau Celtaidd. Mae gan gynifer o'n heglwysi a'n henwau lleoedd yng Nghymru etifeddiaeth Gristnogol sy'n mynd yn ôl i’r hyn a wnaeth y cenhadon Celtaidd hynny. Tybed beth all eu hanesion a'u gwaddol ein dysgu am genhadaeth Crist yn ein cymunedau ni heddiw.