BARTI DDU (Bartholomew Roberts)
Ym mis Mai eleni, daeth merch ifanc, Noriko Osaki o ddinas Kochi, Japan, i’r Castell Newydd Bach yn Sir Benfro, man geni’r môr-leidr enwog, Barti Ddu. Eglura'r ficer, y Canon anrhydeddus Richard Davies.
Wrth siarad â hi, dywedodd fod miloedd yn ei gwlad genedigol â diddordeb mawr yn Barti Ddu. Esboniodd bod lle blaenllaw gan Barti mewn gêm gyfrifiadurol o’r enw Fate Grand Order.
Wrth gwrs, bu diddordeb mawr mewn mab enwocaf y pentref ers canrifoedd, oherwydd ystyrir ef fel un o’r môr-ladron mwyaf llwyddiannus mewn hanes – fe gipiodd Barti llawer mwy o longau na Blackbeard, sy’n llawer mwy enwog . A faint o blant Cymru nad ydynt wedi adrodd darn I.D. Hooson amdano mewn eisteddfodau ar hyd y blynyddoedd? Ac i ni fel Cymry mae rhyw hoffter am y rhai sy’n barod i herio’r Sefydliad, ac yn achos Barti fe wnaeth hyn yn llwyddiannus am dair mlynedd!
Erbyn heddiw, mae agweddau tuag ato yn newid rhywfaint ac mae hyn yn adlewyrchiad o’r mudiad Black lives matter pan roddwyd nifer o enwogion o dan y chwyddwydr.
Wedi ei eni yn 1682, y traddodiad yw ei fod wedi dechrau ei yrfa forwrol pan ond yn llanc. Erbyn 1719, pan orfodwyd iddo ymuno efo’r môr-ladron, roedd yn ail fêt ar y llong Princess a oedd yn masnachu caethweision. Fel capten y Royal Fortune un o’r digwyddiadau mwyaf erchyll y cysylltir ag ef oedd yn Whydah (Benin) pan gollodd nifer fawr o gaethweision eu bywydau mewn dull erchyll, oherwydd Barti.
Serch hyn, mae rhyw ramant amdano yn parhau ac mae nifer o ffeithiau annisgwyl amdano. Roedd yn grefyddol iawn, ac, yn ôl yr hanes, gorfodai pobl i dyngu llwon ar ei Feibl Cymreig. Parchai y Saboth ac ni ymosodai ar longau ar y Sul. Roedd hefyd yn lwyr-ymwrthodwr ac yn yfed te!
Hoffai gerddoriaeth hefyd ac roedd band bach ar fwrdd ei long. Yn ôl rhai mae’r enw Saesneg , y Jolly Roger yn tarddu o’i ‘chwerthinad iach’ a’i hoffter o ddamasc coch. Lladdwyd Barti yn 1722 gan griw HMS Swallow, a cafodd y capten, Chaloner Ogle ei urddo'n farchog – yr unig gapten yn hanes y Llynges Frenhinol a gafodd y fath anrhydedd am ladd môr-leidr.
Yn ôl Stanley Richards yn ei lyfr am Barti, yr olaf o’r Roberts’ oedd Thomas, crydd y pentref a fu farw yn 1853 ac a gladdwyd ym mynwent yr eglwys, ond does dim carreg fedd . Nis gwyddir am ei ddisgynyddion, ond credir fod un o’r canoniad mygedol yn ddisgynydd o chwaer Thomas, Jane!