Dirnadaeth ar ei newydd wedd
Mae Esgobaeth Tyddewi yn cynnig mwy o help nag unrhyw un arall yng Nghymru i’r rhai sy’n ceisio dilyn galwad Duw yn eu bywydau. Ond mae’r ffordd mae’n digwydd yn newid. Y Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth Rhiannon Johnson sy’n esbonio sut... a pham.
Y Gymrodoriaeth Galwedigaethau, sy’n unigryw i’r Esgobaeth hon, yw’r cam cyntaf i unrhyw un sy’n teimlo galwad, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n yn siŵr beth allai fod. Mae rhwydwaith o gynghorwyr galwedigaethau ar gael i helpu’r rhai sy’n teimlo’r alwad i fod yn ddarllenydd (gweinidog lleyg trwyddedig) neu i fod yn ddiacon neu’n offeiriad yn y Weinidogaeth Ordeiniedig. Mae ein Cyfarwyddwr Ordinandiaid, Canon Leigh Richardson, a’n timau dirnadaeth taleithiol ac esgobaethol yn ogystal â’r clerigion plwyf a chyfarwyddwyr ysbrydol yn cefnogi unigolion drwy’r broses ddirnadaeth.
O fis Medi 2024, mae’r ffordd maen nhw’n mynd o’i chwmpas hi yn newid. Bydd patrwm newydd ar gael a fydd yn datblygu’n drefn gyffredin o fis Medi 2025.
Cyn hyn, roedd ymgeiswyr ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig yn mynd gerbron panel esgobaethol ac, os oedd y panel hwnnw’n ystyried eu bod yn barod, roedden nhw’n symud ymlaen i’r broses ddirnadaeth daleithiol. Gan fod y paneli yn canolbwyntio ar gymeriad ymgeiswyr, prin oedd y cyfle iddyn nhw baratoi na dangos beth oedden nhw’n abl i’w wneud. Yn aml, roedden nhw’n derbyn argymhellion yn nodi ‘ddim eto’ oherwydd bod eu hymgeisyddiaeth yn wan mewn un maes neu’i gilydd, ac roedd llawer yn gadael gan deimlo nad oedden y cwestiynau iawn wedi’u gofyn iddynt. Weithiau hefyd, roedd yn rhaid i banel yr esgobaeth ddyfalu sut y byddai panel taleithiol yn ymateb.
O dan y drefn newydd, mae gan ymgeisydd set ar-lein o ‘sgyrsiau carwsél’ gydag aelodau’r panel taleithiol, pob un yn ymarferol iawn, ac mae modd paratoi rhywfaint ymlaen llaw a dangos hyd a lled eu galluoedd. Bydd cofnod o’r sgyrsiau hyn yn dangos cryfderau a gwendidau ymgeisyddiaeth, ac yn cynnig awgrymiadau ar agweddau i fynd i’r afael â nhw cyn mynd gerbron y prif banel taleithiol.
Bydd y Cyfarwyddwr Ordinandiaid a’r tîm wedyn yn gweithio gyda’r ymgeiswyr, gan roi cyfleoedd iddyn nhw fireinio eu hymgeisyddiaeth a pharatoi ar gyfer y panel. Bydd lefel esgobaethol o Ddirnadaeth o hyd er mwyn gwirio y bydd yr ymgeisydd yn gallu gwasanaethu yma ond hefyd fel ymarfer ar gyfer y panel taleithiol.
Ein gobaith yw gwneud i’r newidiadau hyn weithio’n dda i arfogi’r bobl y mae Duw yn eu galw i’w wasanaeth fel darllenwyr, diaconiaid ac offeiriaid.
Mae cyflwyniadau fideo am y newidiadau ar gael ar sianel YouTube yr esgobaeth.