Llwyddiant byd-eang
Wedi'i lansio yn y Gynhadledd Lambeth ddiwethaf, dathlodd mudiad Coedwig y Cymun/Communion Forest ei ail ben-blwydd ym mis Awst. Mae llawer wedi'i gyflawni mewn amser byr.
Yn y lansiad, dywedodd Archesgob Caergaint Justin Welby, "Mae Coedwig y Cymun yn symbol ac yn weithred o obaith, rhywbeth y gallwn ei wneud gyda'n gilydd wrth i ni deithio ymlaen o'r gynhadledd."
Ac felly y bu. Mae mentrau Coedwig y Cymun wedi ymddangos ym mhob cwr o'r Cymundeb Anglicanaidd, mewn gwledydd mor amrywiol ag Awstralia, Papua Gini Newydd, Zimbabwe, Canada, El Salvador, Lloegr, UDA, Brasil, Mozambique, Guatemala, Iwerddon, De Affrica, Ynysoedd y Philipinau, Eswatini, yr Alban a Seland Newydd.
Mae pob un yn helpu tuag at nod cyffredinol Coedwig y Cymun, sef cynyddu tyfu coed a chadwraeth Anglicanaidd, amddiffyn ac adfer ecosystemau ym mhedwar ban byd a dyfnhau gofal am y greadigaeth ym mywyd yr Eglwys. Rhowch wybod i ni am unrhyw fentrau rydych chi'n gysylltiedig â nhw!
Mae'r Gynghrair Anglicanaidd wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech i sefydlu Coedwig y Cymun ac wedi ei meithrin dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Amgylcheddol y Cymundeb Anglicanaidd.
Mae tîm bach wedi estyn allan i daleithiau, wedi rhannu straeon ac adnoddau, wedi cynnal gweminarau a datblygu partneriaethau – gyda phob un yn cyfrannu at gysylltu, arfogi ac ysbrydoli unigolion, esgobaethau a thaleithiau ar draws y Cymundeb Anglicanaidd i ddiogelu cyfanrwydd y greadigaeth a chynnal ac adnewyddu bywyd y ddaear – pumed Nod y Genhadaeth Anglicanaidd.
Mae Nicholas Pande, sy'n gweithio ar eiriolaeth amgylcheddol gyda Swyddfa’r Cymundeb Anglicanaidd yn y Cenhedloedd Unedig, yn disgrifio Coedwig y Cymun fel "tystiolaeth bendant o ymrwymiad y Cymundeb Anglicanaidd i les y ddaear, gan roi mwy o hygrededd inni mewn gofodau trafod byd-eang."
Gweddïwch dros Goedwig y Cymun: y bydd yn parhau i helpu i ddyfnhau gofal am y greadigaeth ym mywyd yr Eglwys, yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i wrthdroi'r argyfwng amgylcheddol ac yn gwasanaethu fel gweithred o obaith Cristnogol er lles dynoliaeth a holl greadigaeth Duw.