Hafan Pobl Dewi: Medi 2024 Teulu Gyda'i Gilydd

Teulu Gyda'i Gilydd

Cheryl James [St Johns Ambulance]

Y mae Ambiwlans Sant Ioan Cymru yn rhan o’r gwasanaeth rhyngwladol. Y mae’n ddarparwr blaenllaw o wasanaethau cymorth cyntaf ac hyfforddiant yng Nghymru. Wedi ei sefydlu dros ganrif yn ôl, y mae’n ymroddedig i sicrhau bod unrhywun sydd angen cymorth cyntaf yn ei dderbyn. Maent yn rhoi cefnogaeth mewn digwyddiadau cyhoeddus, yn cyflwyno cyrsiau cymorth cyntaf, ac yn ymwneud ag estyn allan yn y gymuned er mwyn hyrwyddo iechyd a diogelwch.

Dechreuodd fy nhaith gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru gyda gwreichionen o ddiddordeb a daniwyd gan ffrind . Soniai am ei phrofiadau, gan fanylu ar y rôl hanfodol wrth roi cymorth cyntaf mewn gweithgareddau amrywiol. Yr oedd ei storiau’n rhoi darlun byw o’r cyfeillgarwch, datblygiad sgiliau, a gwasanaeth i’r gymuned . Er i mi gael fy nghyfareddu, chymerais i mo’r cam i ymuno gan nad oeddwn adre mewn pryd i fynd i’r dosbarth.

Priodais, cael plant a phenderfynu y dylwn ddysgu rhai sgiliau cymorth cyntaf rhagofn.

Yr oeddwn yn eiddgar i gael profiad ymarferol ar lefel bersonol ac i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Wedi holi, dysgais bod Adran Rhydaman yn dal i gyfarfod a bod ymaelodi yn syml. Dangosodd fy merch ddiddordeb hefyd ac felly i ffwrdd â ni, ac ymaelodi ar yr un diwrnod. .

Yn fuan wedi hynny, penderfynnodd fy ngŵr a’m dau fab ymaelodi hefyd. Gyda’n gilydd, buom yn rhan o nifer fawr o ddyletswyddau, o ffeiriau lleol i ddigwyddiadau mawr fel cyngherddau yn y parc ayb. Yr oedd y profiadau hyn nid yn unig yn werthfawr ond hefyd wedi dod â ni yn nes at ein gilydd fel teulu. Fe fwynheuom y cyfle unigryw i wasanaethu gyda’n gilydd, gan greu atgofion a dysgu sgiliau amhrisiadwy.

Tyfodd fy ngwaith gyda’r gwasanaeth wrth i mi gymeryd rôl arweinydd ieuenctid y ‘Badgers’, rhaglen i blant o 6 i 11. Roeddwn yn gallu ysbrydoli ac addysgu meddyliau ifanc am y pwysigrwydd o gymorth cyntaf a gwasanaeth . Yn nes ymlaen bum yn Swyddog Rhanbarthol yn gyfrifol am ranbarth Rhydaman, swydd a ddaeth â heriau a boddhad.

Bu bod yn rhan o’r gwasanaeth yn bleserus dros ben. Cwrddais ag ystod eang o bobl, pob un yn ymroddedig i helpu eraill. Y mae’r teimlad o fod yn rhan o rywbeth a gweithio fel tîm yn unigryw, a’r gallu i wasanaethu yn ardal fy magwraeth yn arbennig o bleserus. Wrth gynnig cymorth cyntaf mewn digwyddiadau neu wrth fentora’r genhedlaeth nesa, bu fy mhrofiad yn bennod a roddodd foddhad dwfn yn fy mywyd.