A fyddai grant esgobaethol yn helpu i ariannu eich prosiect?

Dyna ddigwyddodd yn achos côr yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin. Mae'r côr wedi ehangu'n ddiweddar i gynnwys cantorion o eglwysi eraill yn Ardal Gweinidogaeth Leol Bro Caerfyrddin ac maen nhw’n canu ar achlysuron arbennig. Ond roedd hyn yn golygu nad oedd ganddyn nhw ddigon o wisgoedd i bawb mwyach.
Diolch i grant o £1800 gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth, bu modd i’r côr brynu deg set newydd, a chawsant eu gwisgo am y tro cyntaf yn y gwasanaeth Naw Llith a Charol yn Eglwys San Pedr ychydig cyn y Nadolig.
Dywed Cyfarwyddwr Cerdd y côr, Glynis Morris, y bydd y grant – a'r gwisgoedd a ariannwyd ganddo – yn gam ymlaen yn natblygiad cerddoriaeth gorawl ar draws yr Ardal Gweinidogaeth Leol. "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ariannol sydd wedi gwneud hyn yn bosibl," ychwanegodd.
Gallwch eu gweld ar dudalen Grantiau Esgobaethol gwefan yr esgobaeth, lle mae yna hefyd ragor o wybodaeth am y meini prawf a ffurflen gais.
Mae grantiau o hyd at £3000 yn cael eu dyfarnu'n chwarterol ac maen nhw ar gael i Ardaloedd Gweinidogaeth Leol, eglwysi ac unigolion i gefnogi prosiectau sy'n annog cenhadaeth ac yn hyrwyddo twf mewn niferoedd, twf mewn ysbrydolrwydd ac sy’n estyn allan i gymunedau lleol.
Rhaid i geisiadau gael cefnogaeth yr Archddiacon a Chyngor yr Ardal Gweinidogaeth Leol a rhaid eu hawlio o fewn 12 mis i ddyddiad dechrau'r prosiect.