Cerddoriaeth o'r radd flaenaf i bawb
Bydd Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn croesawu perfformiadau o'r radd flaenaf i Sir Benfro wrth i Ŵyl Gerdd yr Eglwys Gadeiriol ddychwelyd ar 22-31 Mai. Gweinyddwr yr Ŵyl, Ben Richards, sy'n dweud mwy.
Mae'r ŵyl ddeng niwrnod yn addo gwledd heb ei hail o gerddoriaeth glasurol, gyfoes a thraddodiadol, gan roi llwyfan i artistiaid o fri rhyngwladol a thalent leol, a hynny yn un o leoliadau mwyaf atmosfferig Cymru.
![Mared Pugh Evans [Cathedral Music festival]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Mared_Pugh_Evans_Cathedral_Music_festival.width-500.jpg)
Bydd y noson agoriadol yn cynnwys y Delynores Frenhinol, Mared Pugh-Evans, yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol Gymreig, a Chorws Plant yr Ŵyl, dan arweiniad yr arweinydd o fri, Ula Weber. Bydd y noson yn gosod y naws ar gyfer rhaglen sy'n dathlu treftadaeth ac arloesedd.
Cynhelir uchafbwynt arbennig ddydd Sadwrn 23 Mai, pan fydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cyflwyno Symffoni Eroica Beethoven o dan arweiniad Martyn Brabbins, ac yn perfformio gweithiau gan Coleridge-Taylor a'r cyfansoddwr Cymreig Huw Watkins. Mae'r perfformiad blynyddol hwn wedi dod yn gonglfaen i'r ŵyl, gan ddenu cynulleidfaoedd o bob cwr o'r rhanbarth.
Bydd y Gosber yn cael ei darlledu'n fyw o'r ŵyl ar BBC Radio 3 ddydd Mercher 27 Mai, pan fydd côr yr Eglwys Gadeiriol yn ymuno â'r consort fiolau enwog, Fretwork, i ddathlu'r cyfansoddwr Tuduraidd Thomas Tomkins, a anwyd yn Nhyddewi. Bydd Fretwork hefyd yn cynnal cyngerdd y noson honno, i goffáu 400 mlwyddiant marwolaeth y cyfansoddwr a'r canwr o gyfnod y Dadeni, John Dowland.
![Apollo-5-Matthew-Johnson [Cathedral Music festival 2026]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Apollo-5-Matthew-Johnson_Cathedral_Music_festi.width-500.jpg)
Bydd cerddoriaeth a cherddorion cyfoes yn cael lle amlwg hefyd, gyda'r feiolinydd ‘fusion’ clasurol dynamig Simmy Singh yn cyflwyno ei rhaglen Belonging/Perthyn; yr organydd TikTok penigamp, Jan Liebermann, yn canu organ hanesyddol y Tad Willis o 1883 yn yr eglwys gadeiriol; a'r ensemble lleisiol Apollo5 yn perfformio cymysgedd o alawon sanctaidd hynafol a phop a jazz cyfoes.
Mae hygyrchedd yn flaenoriaeth. Mae'r ŵyl wedi ymrwymo i sicrhau bod cerddoriaeth o'r radd flaenaf ar gael i bawb. Caiff pob plentyn dan 18 oed fynychu am ddim yng nghwmni oedolyn, gyda thrigolion Tyddewi yn cael gostyngiad o 20%.'
Mae'r rhaglen yn ymestyn y tu hwnt i gyngherddau gyda'r nos, gyda chyngherddau coffi boreol, datganiadau prynhawn, a pherfformiadau teuluol gydol yr wythnos. Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys cyngerdd teuluol gyda pherfformiad o Peter and the Wolf gan Prokofiev a derbyniad diodydd a canapés gyda'r nos, yng nghwmni Triawd Jazz Tom Marsh.
Mae'r ŵyl yn dod i ben ddydd Sadwrn 30 Mai gyda chyngerdd ffarwel John S. Davies, a fydd yn arwain ei gôr o'r un enw mewn perfformiad o’r Magnificat gan Bach ac Offeren Nelson gan Haydn - diweddglo teilwng i yrfa nodedig.
Mae'r tocynnau yn amrywio o £10 i £30, gyda llawer o opsiynau seddi heb eu cadw ar gael. Bydd Swyddfa Docynnau yr Ŵyl ar y Pebbles ar agor o 18 Mai drwy gydol cyfnod yr ŵyl.
Am ragor o wybodaeth ac archebu, ewch i www.stdavidscathedral.org.uk/music-festival neu ffoniwch 01437 722002.