Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Trasiedi ar y môr

Trasiedi ar y môr

Mae Alun Ifans yn adrodd stori am dynged a marwolaeth oddi ar arfordir gorllewin Cymru a fyddai’n gwneud hanes morwrol.

Roedd prysurdeb mawr yn harbwr Solfach yn 1775, pan gludwyd llwythi o farrau haearn oddi yno i godi’r goleudy cyntaf ar greigiau’r Smalls. Mae Ynysoedd y Smalls yn glwstwr o greigiau peryglus rhyw ddwy filltir ar hugain o’r arfordir. Drylliwyd nifer fawr o longau a boddwyd cannoedd o forwyr yno.

Yn y ddeunawfed ganrif clywodd gwneuthurwr ffidil o Lerpwl, o’r enw Henry Whiteside, am yr holl fywydau oedd wedi eu colli ar y creigiau . Priododd Henry ferch tafarnwr o Solfach ac ymgartrefu yno,, gan droi ei olygon at oleudai. Ffurfiwyd partneriaeth rhyngddo ef a John Phillips, a gafodd prydles am hanner can mlynedd gan y goron i godi’r goleudy ar Ynysoedd y Smalls.

smalls-lighthouse-1776

Adeiladwyd ffrâm y goleudy o farrau haearn wedi eu bolltio at ei gilydd, ond yn aflwyddiannus, a bu’n defnyddio pyst deri cedyrn. Roedd yn rhaid i'r llongau a oedd yn teithio i Lerpwl o America, Iwerddon neu’r Cyfandir basio heibio i greigiau Smalls. Wedi codi’r goleudy gorfodwyd pob llong i dalu ffyrling y dunnell ar ôl docio yn Lerpwl.

Cyflogwyd pedwar dyn lleol i gynnau fflamau’r goleudy, dau ddyn yn gweithio mis ar y goleudy, a dau arall yn cymryd eu lle. Tua mis Awst 1801 roedd dau o’r enw Joseph Harry a Thomas Griffiths ar y goleudy gyda’i gilydd – ond ddim yn cyd-dynnu. Roeddent tua’r deg ar hugain oed, ond yn wahanol iawn i’w gilydd, Joseph Harry yn fach ac eiddil, tra mai cowper di-waith cydnerth oedd Thomas Griffiths. Arhosai’r dynion ar y goleudy yn disgwyl i’r cwch i ddod â dau ddyn arall . Yn aml iawn byddai’n rhy stormus , felly roedd yn rhaid i’r dynion aros nes cael tywydd ffafriol.

Wrth ddisgwyl am y cwch gwaethygodd iechyd Joseph Harry a bu farw . Ni fentrodd Thomas Griffiths ollwng y corff i’r môr, am ei fod yn ofni cael ei gyhuddo o lofruddiaeth. Arhosodd gyda’r corff gan ddisgwyl i’r cwch – ond ni ddaeth oherwydd y tywydd garw.,Llusgodd yr wythnosau heibio a dim argoel fod y storm yn mynd i ostegu, na’r cwch yn gallu croesi .

Gwnaeth Thomas Griffiths ryw fath o arch i’r corff,. ac i osgoi’r drewdod llethol, clymodd yr arch y tu allan i’r golau ar y balconi bach o gwmpas gwydr y llusern.

Ond doedd e ddim yn rhydd o grafangau ei gyd-ofalwr; a dechreuodd yr arch ddatgymalu yn erbyn y gwydr. Erbyn iddo gael ei achub, roedd wedi gwallgofi.,Ac ers hynny, sicrhawyd fod tri cheidwad ar bob goleudy yn y wlad.