Achubiaeth i deuluoedd ifanc
Mae wedi bod yn achubiaeth i fi; mae wedi rhoi hyder a rhwydwaith cryf o gefnogaeth i fi."
Mae'r dyfyniad pwerus hwn gan riant ifanc yn Sir Gâr yn crynhoi’n berffaith galon a phwrpas y gwaith a wnawn yn Plant Dewi. Dyma Vicky Thomas a Carys Davies i esbonio mwy.

Trwy ein Prosiect Rhieni Ifanc, ein nod yw cynnig sicrwydd, cysylltiad ac ymdeimlad o berthyn yn ogystal â chymorth i deuluoedd ifanc.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n rhedeg dau grŵp i rieni ifanc, un yng Nghaerfyrddin ac un yn Rhydaman. Mae'r grwpiau hyn yn cynnig lle croesawgar, diogel lle gall rhieni ifanc alw heibio, cysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, a derbyn cefnogaeth barhaus gan staff ymroddedig.
Law yn llaw â hyn, gall rhieni fwynhau ystod eang o weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i fagu hyder a lles. Mae babanod a phlant bach yn elwa'n fawr ar gyfleoedd i chwarae a dysgu gyda'i gilydd mewn amgylchedd meithringar a chefnogol.
Rydyn ni’n darparu ciniawau a byrbrydau iach yn y ddau grŵp i gefnogi teuluoedd i wneud dewisiadau bwyd maethlon. Mae darparu prydau iach yn helpu teuluoedd i fwyta'n dda wrth iddyn nhw ddysgu am werth deiet cytbwys a maeth da.
Mae'r sesiynau'n cynnwys crefftau creadigol trwy weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar, coginio ac adeiladu tîm, yn ogystal â gweithdai ymarferol sy'n cynnwys pynciau fel ymwybyddiaeth o ddyledion, diogelwch ar y rhyngrwyd, iechyd a lles, a chefnogaeth i ddychwelyd i'r gwaith, addysg neu wirfoddoli.
Mae teuluoedd hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn teithiau sy’n cael eu trefnu gan Plant Dewi, gan gynnwys ymweliadau fel ein digwyddiad yn yr Ardd Fotaneg, gan helpu i greu profiadau cadarnhaol cyffredin ac atgofion bythgofiadwy.
Mae cysylltiad cymunedol yn rhan allweddol o'n dull gweithredu. Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda chymunedau lleol ac yn annog rhieni ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol. Bu grŵp Rhydaman, er enghraifft, yn mwynhau dathliadau Cristingl a'r Pasg gyda'r eglwys leol ac fe wnaeth sawl un alw heibio yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn am baned a sgwrs â theuluoedd lleol, gan helpu i gryfhau perthnasoedd a lleihau unigrwydd.
Yn ogystal â’r cymorth grŵp, rydyn ni’n cynnig cymorth un-i-un ledled Sir Gâr. Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i deilwra i anghenion unigol pob rhiant ifanc a gall fod yn achubiaeth hanfodol i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd gwledig neu ynysig a allai ei chael hi'n anodd mynychu sesiynau grŵp. Gall cymorth un-i-un gynnwys tylino babanod, yn ogystal â chyngor a gwasanaeth cyfeirio at wasanaethau tai, budd-daliadau, a phryderon ymarferol eraill.