Y bwlch rhwng y rhywiau yn yr ardd
Mae'r rhan fwyaf o blanhigion yn cael eu peillio gan bryfed, infertebrata a mamaliaid bach, ond mae rhai yn dibynnu ar y gwynt i atgenhedlu, diolch i ychydig o fotaneg ddiddorol. Harriet Carty, o Gofalu am Erw Duw, sy’n esbonio mwy...
Mae'r rhan fwyaf o flodau yn cynnwys rhannau gwrywaidd a benywaidd o fewn yr un blodyn, ond fel arfer mae gan goed a beillir gan y gwynt flodau gwrywaidd a benywaidd ar wahân. Gallan nhw fodoli ar yr un goeden, fel sy’n wir am goed cyll neu dderw, neu weithiau ar goed gwahanol, fel sy’n wir am goed helyg a phoplys.
![Catkins [tasha-k-unsplash]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/tasha-k-foi6TImmguI-unsplash.width-500.jpg)
Mae'r blodau gwrywaidd yn ffurfio mewn clystyrau, er enghraifft fel cynffonnau ŵyn bach, tra bod y blodau benywaidd yn sefyll yn unionsyth yn unigol. Mae'r cynffonnau ŵyn bach gwrywaidd a'r blodau benywaidd i'w gweld ar ymylon canopi'r coed lle bydd y gwynt yn eu dal, gan ysgwyd y cynffonnau wyn bach, rhyddhau'r paill a'i gario i ffwrdd.
Mae gan y blodau benywaidd yn aml flaen gludiog neu 'stigma' i ddal y paill sy'n pasio. Maen nhw weithiau'n goch, ac yn edrych ychydig bach fel anemoni môr bach. Ar ôl ei beillio, bydd y blodyn benywaidd yn datblygu'n had, boed yn fesen, yn gneuen pinwydd neu'n gneuen gollen.
Mae peillio gan y gwynt yn gweithio'n dda ar gyfer coed sy'n blodeuo'n gynnar, pan na fydd llawer o beillwyr pryfed o gwmpas, ac yn achos coed mewn mannau oer a gwyntog hefyd. Mae coed cyll, bedw, helyg a phinwydd yn goed sy'n cyrraedd yn gynnar ac yn tyfu ar dir moel, creigiog a chredir eu bod ymhlith y coed a ymsefydlodd ar fannau a adawyd yn foel wrth i rewlifoedd encilio ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Byddai peillio gan y gwynt wedi bod o fantais yn yr achos hwn.
Mae gweiriau yn grŵp pwysig arall o blanhigion sy'n cael eu peillio gan y gwynt. Mae blodau gweiriau yn tueddu i fod yn wyrdd, melyn neu frown golau yn hytrach na lliwiau llachar. Maen nhw’n cael eu cynhyrchu ar ben coesyn sydd fel arfer yn sefyll yn fertigol, gan ddod â'r blodau uwchben dail eraill ac i'r gwynt. Maen nhw’n tueddu i fod wedi'u clystyru, yn aml mewn pigyn yn debyg i gynffon oen bach fertigol ac maen nhw’n cynhyrchu llawer iawn o baill y gellir ei gario dros bellter.
Mae llawer o weiriau yn agor pan fyddan nhw’n barod i ryddhau eu paill, gan edrych fel coeden Nadolig fach, fel bod yr holl flodau yn cael eu dal gan yr awel. Mae gan rai gweiriau liwiau cryf, ond mae hyn oherwydd lliw'r paill nid oherwydd y blodau. Gall y gweiriau hyn fod yn hynod hardd wrth ryddhau eu paill lliwgar. Un enghraifft o hyn yw cynffonwellt y maes (meadow foxtail), a gafodd ei enw Saesneg oherwydd bod y paill coch yn lliwio'r pigyn blodeuol fel cynffon llwynog.