Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Chwarae Teg

Chwarae Teg

‘Roedd creu maes tref neu wledig ym Maes Glasfryn, Tŷ Ddewi yn garreg filltir i’r Gymdeithas Mannau Agored. Mae Kate Ashbrook, ei Ysgrifennydd Cyffredinol yn esbonio’r gwaith.

Maes Glasfryn, St Davids Common

Mae’r gymdeithas yn annog y cofrestri o feysydd tref neu wledig gan ei fod yn diogelu’r tir o’i ddatblygu ac yn rhoi hawliau chwarae i bobl leol. Ni yw’r sefydliad cenedlaethol cadwriaethol hynaf, a sefydlwyd 160 o flynyddoedd yn ôl yn 1865, ac ein hamcan y’w diogelu mannau gwyrdd a llwybrau cyhoeddus er fwynhad y bobl.

Mae meysydd tref neu wledig yn cael ei gofrestru gan y cyngor sir, naill a’i ar dystoliaeth o 20 mlynedd o’i ddefnyddio gan bobl leol, heb ei herio na thoriad, iw defnyddio gogyfer hamdden anffurfiol, neu gan berchennog y tir yn cyflwyno’r tir. Cyflwynwyd Maes Glasfryn gan ei berchnogion hael Matthew, Andrew a Stuart Gray. Mae’n esiampl wych i berchnogion tir glas yng Nghymru a Lloegr.

Cofrestrwyd maes wledig Sutton yng Nghamrose yn 2018 gan Gymdeithas Preswylwyr plwyf Lambston ar dystiolaeth 20 mlynedd o ddefnydd, gyda chyngor oddiwrth Gymdeithas Mannau Agored.

Ceisiwn berswadio datblygwyr i gynnig maes tref neu wledig fel rhan o ddatblygiad fel bod gan y gymuned lle y gwnânt wybod fydd yn parhau.

Rydym hefyd yn cymeryd diddordeb manwl mewn tir comin. Mae bob comin wedi ei berchen ond mae gan eraill hawliau yma, er enghraifft i bori anifeiliaid neu gasglu coed, ac mae gan y cyhoedd hawl i gerdded ar bob comin ac i farchogaeth ar rai. Gan i ni gael ein hadnabod fel arbenigwyr, rydym yn cael ein hysbysu o bob cais am waith ar dir comin a phenderfynu’r gan Weinidogion Cymru. Rydym yn gwrthwynebu pan gredwn bydd budd y cyhoedd yn cael ei effeithio yn andwyol.

Open Spaces - Plumstone Creative Commons (Michele Large)

Felly, yn 2020, fe wrthwynebon gais am 1500 medrau-sgwar o ffensio atal-stoc ar Gomin Rhos Gelli Gron yng Ngheredigion ac roeddwn yn falch iawn pan gafodd ei wrthod gan yr Arolygwr Cynllunio oherwydd y byddai yn niweidiol i’r tirlun, hanes a mynediad cyhoeddus.

Deugain mlynedd yn ôl, fe wnaethom lwyddo i waredi ffensiau anghyfreithlon o gomin fynydd Plumston ger Camrose, ac rydym nawr yn rhan o reolaeth y comin, am fynediad cyhoeddus a chadwraeth natur ar y maes arbennig yma.

Elusen yw Gymdeithas Mannau Agored. Rydym yn cynorthwyo ein haelodau gyda’i ymgyrchoedd i ddiogelu tir comin, meysydd, mannau agored eraill a llwybrau. Os hoffech ymuno, edrychwch yma os gwelwch yn dda: https://www.oss.org.uk/.