Storiau

Pobl a lleoedd
Mae Eluned Rees yn gofyn o ble mae'r straeon gorau'n dod.
Mae ein bywydau’n llawn o storiau, ac rwyf wedi bod yn meddwl, wrth dyfu’n hŷn, am yr effaith maen nhw’n cael ar ein bywydau
Meddyliwch am storiau brawychus yr Hen Destament- morfil yn llyncu dyn, bachgen ifanc yn ymladd cawr, crwt arall mewn ffau llewod! Diolch byth bod storiau’r Testament Newydd yn llai brawychus nes dod, wrth gwrs, at y Croeshoelio.
Ond mae hanesion teuluol hefyd yn bwysig fel dylanwadau arnom ni. Roedd fy nhad yn llawn hanesion am ei blentyndod, ar fferm yn Nyffryn Cothi. Daeth newydd am ddiwedd y Boer War ddim iddynt am rai dyddiau, gan nad oedd radio gan neb yn y dyddiau cynnar. Roedd y meddyg yn dod ar gefn ceffyl, ac fe lofruddiwyd ef, a chafodd fy nhad, a ddaeth i’r byd gyda’i help, ei enwi ar ei ôl.
Redd Mam wedi ei magu yn Nhreforys, ac hanesion amser rhyfel oedd ganddi. Roedd nosweithiau lle byddent yn cuddio yn yr Anderson shelter ar waelod yr ardd, ac, wrth ddychwelyd o gwrs teipio yng Nghaerdydd, gorfodwyd y trên i aros cyn mynd i’r orsaf, wrth iddynt wylio’r bomiau’n disgyn yn Sgiwen. Roedd fel golau ddydd am ddyddiau.Roedd fy nhad yn gallu gweld y golau yn yr awyr hyd yn oed o Gwrt y Cadno!
Yna eu bywyd priodasol cynnar, fy nhad yn gurad yn Llanwrda, ac yn byw mewn ‘rooms’, gan rannu cegin gyda’r perchennog, ef yn seiclo i gymryd gwasanaeth yn Llansadwrn, ac i Lanymddyfri i ddysgu rhywfaint o Gymraeg yn y Coleg yno. Mam yn dysgu siarad Cymraeg mewn ardal lle nad oedd plant a hen bobl yn siarad Saesneg, a bu’n llwyddiannus. Yna symud i ficerdy mawr oer yn Llwyndafydd, heb drydan ar y llofft, a chanhwyllau a lamp tan i fi gael fy ngeni. Fe ddes â goleuni I’w bywydau!
Ond pa storiau ydw i wedi’u rhannu gyda fy meibion? A fyddant yn eu cofio? Wrth gwrs, hanesion Ficerdy, ysgol ac eglwys, bywyd pentref Cymreig gwledig oeddynt gan fwyaf, ond teimlwn ei bod yn bwysig mynd â nhw i weld y mannau hynny oedd yn bwysig i fi.
Ac mae hynny’n codi cwestiwn, ai hanesion y bobl neu’r llefydd sy bwysicaf i drosglwyddo i’n plant? Gallech ddweud bod pobl yn dod a mynd, ond bod llefydd yn aros? Ydyn nhw ynghlwm? Mae’r arfer annwyl o alw rhywun wrth enw ei gartref, megis Dai Brynteg, neu Lloyd Penplwyf yn dangos y cwlwm rhwng y bobl a’r tir.Beth yw eich barn chi, wn i?