Rhannu'r Daith
Wrth gyrraedd meudwyfa neu gapel hynafol, daw rhywun yn ymwybodol o adlais sy'n ymestyn yn ôl canrifoedd. Mae Robin Gleed o Journeying, cwmni gwyliau Cristnogol, yn amlinellu'r hyn sydd ar gael yn 2026.
Gyda threigl amser, efallai nad yw bellach yn fawr mwy na thwmpath o gerrig gyda dim ond amlinelliad amwys i awgrymu ei bwrpas gwreiddiol, ond mae sefyll yno, ac ymdeimlo i’w naws, yn cysylltu'r presennol â’r gorffennol ar daith gyffredin - profiad sydd mor llawen ag ydyw’n wylaidd, profiad cwbl ryfeddol.
![Ruins [Journeying pic]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Journeying_pic.width-500.jpg)
Ar y pwynt hwn, waeth a ddechreuodd rhywun fel pererin ai peidio, mae’n sicr bellach yn bererin.
Mae ein pererindodau yn mynd â ni trwy dirweddau hardd i lefydd lle mae pobl wedi teimlo'n arbennig o agos at Dduw ers canrifoedd lawer – llecynnau cysegredig, cyrchfannau i bererinion.
Rydyn ni’n estyn croeso cynnes i unrhyw un sy'n teimlo y gallai anffurfioldeb, naws a rhythm ein dyddiau helpu i feithrin ei daith ysbrydol. Mae ein grwpiau'n fach, uchafswm o ddwsin efallai, gan gynnwys dau arweinydd sy'n gwmni i’r grŵp gydol y daith.
Mae rhaglen 2026 yn cynnwys teithiau sy'n cynnwys teithiau cerdded hir, troeon byr a rhai sydd ag elfennau o encilio:
- Ynys Môn, 24–30 Ebrill
- Pen Llŷn, 16–23 Mai.
- Encil Bererindod Ynys Bŷr, 4-8 Mehefin
- Grasmere ac Ardal y Llynnoedd. 14-19 Mehefin
- Mynachiaeth yn Nyffryn Gwy. 6–11 Gorffennaf
- Caergaint, Lloegr. 17–24 Awst
- Dinbych-y-pysgod a Llwybr Arfordir Sir Benfro. 12–19 Medi
- Diwedd yr haf yn Swydd Rydychen. 22–25 Medi
Am ragor o wybodaeth ewch i www.journeying.co.uk