Achub ein Hysgolion!
Mae dyfodol dwy Ysgol yr Eglwys yng Nghymru dan fygythiad yn Sir Benfro. Mae Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth, y Canon John Cecil, yn amlinellu gwrthwynebiad yr Esgobaeth i'r cynnig.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi mynd i ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu ar ddyfodol dwy Ysgol Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru yn Sir Benfro er gwaethaf gwrthwynebiadau gan yr Esgobaeth a'r gymuned leol.
- Maenorbŷr

Ym mis Hydref 2022 dinistriwyd Ysgol Wirfoddol a Reolir yr Eglwys yng Nghymru Maenorbŷr gan dân a gorfodwyd y plant i barhau â'u haddysg yn Neuadd Gymunedol Jameston gerllaw. Mae staff yr ysgol wedi gweithio'n ddiflino i greu amgylchedd dysgu ysgogol i'r plant a chafodd hyn ei gydnabod gan Estyn mewn arolwg o’r ysgol ym mis Rhagfyr 2023.
Fe wnaeth Cyngor Sir Penfro roi sicrwydd i'r Esgobaeth a'r gymuned leol y byddai'r ysgol yn cael ei hailadeiladu ac y byddai'r plant yn dychwelyd i'w hadeilad ysgol poblogaidd. Roedd y sicrwydd hwn yn dal i gael ei roi mor ddiweddar â mis Rhagfyr 2024. Fodd bynnag, buan y newidiodd y sefyllfa, gyda’r costau ailadeiladu a gostyngiad yn nifer y disgyblion yn cael eu nodi fel rhesymau dros y bwriad i gau.
Mae'r Esgobaeth o'r farn bod yn rhaid i Gyngor Sir Penfro anrhydeddu ei gytundeb i adfer yr ysgol. Mae'r adeilad sydd wedi'i ddifrodi gan dân yn perthyn i'r Esgobaeth ac felly mae'n rhaid ei ddychwelyd mewn cyflwr wedi'i atgyweirio'n llawn. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i'r plant beidio â dychwelyd i ysgol sydd wedi gwasanaethu ei chymuned ers dros 150 mlynedd. Mae swyddogion esgobaethol wedi ceisio gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i ddatrys y mater, ond yn ofer.
- Cilgerran

Mae Ysgol Wirfoddol a Reolir Cilgerran o dan fygythiad hefyd. Y rheswm a roddwyd dros y cau gan Gyngor Sir Penfro yw er mwyn gallu dileu statws Gwirfoddol a Reolir yr ysgol, sy'n golygu y byddai'r ysgol yn ailagor fel Ysgol Gynradd Sirol (CP).
Byddai hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r ysgol gael ei ffedereiddio ag ysgolion cyfagos, gan helpu i ddatrys yr argyfwng recriwtio penaethiaid sy'n amlwg ledled Cymru. Mae Ysgol Wirfoddol a Reolir Cilgerran yn ysgol ffyniannus gyda niferoedd y dysgwyr yn sefydlog a’r plant sy'n mynychu’r ysgol yn mwynhau deilliannau da. Mae'r gymuned leol yn gwerthfawrogi'r cysylltiadau sydd gan yr ysgol â'r Eglwys ac mae rhieni'n teimlo bod eu plant yn elwa ar y gwerthoedd Cristnogol y mae'r ysgol yn eu dysgu.
Mae'r Esgobaeth wedi gwrthwynebu'r cynnig gan fod yr Ysgol Eglwys yng Nghymru agosaf o Gilgerran dros 23 milltir i ffwrdd yn Nhreletert ac mae hyn yn rhoi baich sylweddol ar deuluoedd sy'n dymuno i'w plant barhau â'u haddysg yn un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.
Gellir datrys y mater o ffedereiddio trwy groesawu mwy o Ysgolion Cynradd y Sir i deulu Ysgolion yr Eglwys a newid eu statws o fod yn Ysgolion Cynradd Sirol i fod yn Ysgolion Gwirfoddol a Reolir. Bu cynsail i wneud hyn yn Sir Benfro yn y gorffennol, gyda nifer o ysgolion llwyddiannus yr Eglwys yng Nghymru wedi’u creu fel hyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r Esgobaeth yn parhau i wrthwynebu’r ddau gynnig i’r carn ac ymwelodd yr Esgob Dorrien â'r ddwy ysgol ym mis Chwefror 2026 i gynnig ei gefnogaeth a'i ddiolchgarwch i'r staff a'r llywodraethwyr am eu holl waith caled dan amgylchiadau heriol.
Fe wnaeth safon addysg y ddwy ysgol a’r gwerthoedd Cristnogol a ddangoswyd gan y plant greu argraff arno. Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg yn falch o'r holl Ysgolion Eglwysig yn yr Esgobaeth ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod addysg sy'n seiliedig ar ffydd yn parhau yn Sir Benfro a bod mwy o ysgolion yn cael y cyfle i weithio gydag Esgobaeth Tyddewi yn y dyfodol.