Gwarchod ein trysorau eglwysig
Ledled y DU, mae eglwysi yn parhau i wynebu’r realiti anodd o fetel yn cael ei ddwyn. Neges gan Kevin Thomas, Prif Syrfëwr Rheoli Risg yn Ecclesiastical Insurance, ...
![Smart water pic [church roof]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Smart_water_pic.width-500.jpg)
Mae plwm, copr a deunyddiau eraill sy'n rhan o adeiladwaith ein hadeiladau yn ddeniadol i ladron, a phan fyddan nhw’n cael eu dwyn, gall y difrod fod yn dorcalonnus. Ar wahân i'r gost, gall colli to neu bibellau amharu ar addoliad, bywyd cymunedol, a chanrifoedd o dreftadaeth – a hynny mewn amrantiad.
Er mwyn helpu eglwysi i ymateb i’r her hon, mae llawer yn defnyddio SmartWater®, system farcio fforensig syml ond hynod effeithiol sydd wedi'i chynllunio i amddiffyn metel bregus ac eitemau gwerthfawr eraill.
Yn Ecclesiastical Insurance, mae deiliaid polisi’r eglwys yn defnyddio SmartWater a ddarperir gan DeterTech Limited. Rydyn ni’n gofyn i bob eglwys ddefnyddio system farcio fforensig, fel SmartWater, ar fetel allanol er mwyn i’r yswiriant ei gwmpasu.
Hylif clir yw SmartWater sy'n cynnwys cod fforensig unigryw, yn debyg i olion bysedd anweledig. Pan fydd yn cael ei ddefnyddio, yn unol â'r canllawiau yn eich pecyn SmartWater, ar fetel ar doeau, ar ddodrefn eglwysig a hyd yn oed ar eitemau gwerthfawr cludadwy fel pres ac arian, does dim modd ei waredu’n hawdd.
Er ei fod yn anweledig yng ngolau dydd, mae'n disgleirio’n felynwyrdd llachar o dan olau UV, gan ganiatáu i fetel wedi'i adfer gael ei olrhain yn ôl i'r eglwys y mae'n perthyn iddi. Mae hyn hefyd yn galluogi'r heddlu i gysylltu troseddwyr â lleoliadau trosedd, rhywbeth sydd wedi cyfrannu at erlyniadau llwyddiannus ledled y DU.
Mae gan SmartWater hanes cryf nid yn unig o helpu'r heddlu i adnabod deunyddiau wedi'u dwyn ond hefyd atal lladradau rhag digwydd. Mae troseddwyr yn ymwybodol iawn o'r dechnoleg, ac mae ymchwil yn dangos bod arwydd rhybudd SmartWater clir yn gwneud i lawer o droseddwyr feddwl ddwywaith. Yn wir, dywedodd bron i dri chwarter y troseddwyr a arolygwyd y bydden nhw’n osgoi safle sy'n arddangos arwyddion SmartWater, sy’n dangos yn glir i ni y gall mesurau syml gael effaith fawr.
Dydy defnyddio SmartWater ddim yn mynd i ateb pob problem, ond mae'n rhan bwysig o ymagwedd ehangach, gyfrifol tuag at ofalu am ein hadeiladau. Law yn llaw â threfniadau gofal da, arwyddion clir a larymau to neu fesurau eraill lle bo hynny’n briodol, mae'n ein helpu i weithredu'n ddoeth ac yn gymesur wrth amddiffyn y lleoedd sy'n golygu cymaint i'n cymunedau addoli.
Mae mesurau fel SmartWater yn chwarae rôl ymarferol gan leihau lladradau a'r aflonyddwch costus a ddaw yn ei sgil, gan ganiatáu i eglwysi gynnal eu hadeiladau'n fwy effeithlon.
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.ecclesiastical.com/smartwater, anfonwch e-bost ataf yn Meetus@ecclesiastical.com neu ffoniwch Ecclesiastical Insurance ar 0345 777 3322.