Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Gweddiau Pasg

Gweddiau Pasg

holy week

Sul y Dioddefaint

Arglwydd Iesu, yr Atgyfodiad a'r Bywyd, llefara giriau bywyd, ac anadla Ysbryd y bywyd i mewn i ni, dy bobl. Bydded inni adnabod dy nerth oddi mewn a chyhoeddi efengyl y bywyd o'r newydd ym mhopeth a ddywedwn ac a wnawn. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen

Sul y Blodau

Dysg ni, Arglwydd, i rodio’n ostyngedig gyda thi ar dy daith i'r groes. Wrth i ni gerdded, bydded inni gyffwrdd â bywydau'r rhai o'n cwmpas â'th gariad a'th nerth iachaol. A dangos i ni o'r newydd ddyfnder a lled dy ras a'th gariad wrth i ni dy weld yn rhoi dy einioes drosom ni. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen

Sul y Pasg

Aleliwia! Atgyfododd Crist! Hollalluog Dduw, bydded i'r sŵn buddugoliaethol hwn godi o ddwfn y tu mewn i ni wrth i ni sefyll wrth y bedd gwag, gan wybod bod Crist yn fyw drachefn. Bydded inni fyw yn nerth dy atgyfodiad, ac adnabod dy gwmni ar hyd y ffordd, wrth i ni rannu'r newyddion rhyfeddol hwn o oleuni a bywyd gyda'r byd tywyll sy'n ein hamgylchynu. Trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen