Neges Dydd Gwyl Dewi
Senedd newydd, lleisiau newydd, yr un cyfrifoldebau ar y cyd
Neges Dydd Gŵyl Dewi i'r Senedd gan Esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Bob blwyddyn, fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi, mae criw o bobl ifanc yn teithio o Dyddewi i gyflwyno neges i'n cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd.
Neges gan Esgob Tyddewi oedd hon yn draddodiadol, er ei bod wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf i gynnwys holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru.

Yn ddiweddar, hefyd, mae'r dasg o gyflwyno'r neges wedi disgyn ar ysgwyddau disgyblion Ysgol Penrhyn Dewi, ysgol wirfoddol 3-16 oed yr Eglwys yng Nghymru sy'n gwasanaethu penrhyn Tyddewi ac sydd â chysylltiadau agos â'r nawddsant a'i gadeirlan.
Gan fod Dydd Gŵyl Dewi ar ddydd Sul eleni, pan nad yw'r Senedd yn cyfarfod, cafodd y seremoni ei gohirio tan y diwrnod canlynol. Ac fe gafodd y neges ei chyflwyno i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, a'i derbyniodd yn bersonol.
Y neges yn llawn:
Bore da / prynhawn da bawb, a boed i ni ddechrau trwy ddymuno Dydd Gŵyl Dewi bendithiol i bawb.
Ar y diwrnod hwn rydym yn diolch am genedl a phobl Cymru, am bawb sy'n galw'r tir hwn yn gartref, ac am yr hanes, yr iaith a'r diwylliant cyffredin sy'n ein siapio ni. Gyda deffroad y Gwanwyn, ac wrth i’r cennin Pedr flodeuo, cawn ein hatgoffa o fywyd newydd ac adnewyddiad, ac yn anad dim, cawn ein hatgoffa o'r gobaith a'r ailenedigaeth a geir yng Nghrist Iesu, nid yn unig i Gymru, ond i'r byd benbaladr.
Wrth i ni edrych ar Gymru heddiw, gwelwn genedl hael. Gwelwn bobl sy'n poeni’n ddwfn am gymuned, am gyfiawnder, am gof y rhai a ddaeth o'n blaenau, a bywydau'r rhai a ddaw ar ein holau. Gallwn fod yn falch o bwy ydym ni, gan ddal i fod â'r uchelgais i fod yn fwy nag ydym ni yn awr.
Ymhen ychydig fisoedd, bydd pobl Cymru yn cael y cyfle i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd a fydd yn cael ei hethol mewn ffordd newydd, a chyda mwy o aelodau. Daw amgylchiadau newydd â lleisiau newydd a safbwyntiau newydd i'r hendir hwn.
I'r rhai sy'n gymwys i bleidleisio, fe’u hanogwn i ddefnyddio'r fraint werthfawr hon y brwydrodd llawer mor galed i’w sicrhau. I'r rhai sy'n ymgyrchu, fe’u hanogwn i wneud hynny'n deg ac yn barchus, gan gydnabod ein gwahaniaethau, ond heb fyth anghofio ein cyfrifoldeb cyffredin dros ein lles cyffredin. Pan ddaw'r amser, ac wrth i’r Aelodau newydd o'r Senedd gymryd eu seddau, gadewch inni eu cynnal yn ein gweddïau, fel y gall y Llywodraeth nesaf, pa ffurf bynnag fydd hi, weithredu gyda doethineb, gostyngeiddrwydd a dewrder a gwasanaethu holl bobl Cymru.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, boed i ni adnewyddu ein hymrwymiad i'n gilydd, a boed i Dduw fendithio Cymru heddiw, ac yn dragywydd.