Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Penodi Prif Swyddog Gweithredol newydd ar gyfer Esgobaeth Tyddewi

Penodi Prif Swyddog Gweithredol newydd ar gyfer Esgobaeth Tyddewi

Mae Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi wedi cyhoeddi penodiad Mr Iwan Thomas fel Ysgrifennydd a Phrif Swyddog Gweithredol newydd yr Esgobaeth.

Iwan Thomas_2

Mae Mr Thomas yn ymuno â'r esgobaeth o'i rôl bresennol fel Prif Weithredwr Planed, partneriaeth a arweinir gan y gymuned sy'n gweithredu fel menter gymdeithasol, Ymddiriedolaeth Datblygu, ac elusen.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Cyllid, Tim Llewelyn: "Mae ehangder ei brofiad, ei ymrwymiad i'r gymuned, a'i enw da ym maes arweinyddiaeth sefydliadol yn ei roi mewn sefyllfa eithriadol o dda i wasanaethu'r Esgobaeth ar yr adeg bwysig hon.”

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaerfyrddin, mae Iwan yn addolwr rheolaidd yn Eglwys y Santes Fair, Llan-llwch, lle mae'n chwarae rhan weithredol yn ei chenhadaeth a'i thystiolaeth. “Bydd ei wreiddiau dwfn yn y rhanbarth a'i ymrwymiad i fywyd yr Eglwys yn gaffaeliad mawr i'r esgobaeth," meddai Mr Llewelyn.

“Gyda 25 mlynedd a mwy o brofiad fel arweinydd ar draws y sector cyhoeddus, y sector addysg a'r trydydd sector yng Nghymru, daw â ffocws cryf ar wasanaeth, ar y gymuned ac ar effaith gymdeithasol gynaliadwy. Mae wedi arwain sefydliadau yn llwyddiannus trwy gyfnodau o drawsnewid, ailstrwythuro ac ehangu sylweddol, gan sicrhau sefydlogrwydd ariannol a meithrin arloesedd.”

Ymunodd Iwan â Planed yn 2018, gan gymryd yr awenau ar adeg o her sylweddol. Gan gadw personél allweddol a recriwtio staff profiadol newydd, mae Iwan wedi trawsnewid a thyfu PLANED, o elusen a arferai ganolbwyntio ar Sir Benfro yn unig, i fod yn sefydliad cyflenwi rhanbarthol cynaliadwy, gyda phroffil amlycach a dylanwad cenedlaethol.

Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 5 Mai, gan olynu Howard Llewellyn, sydd wedi dal y swydd ers 2018.

“Rydw i am ddiolch o waelod calon am gyfraniad helaeth Howard dros y blynyddoedd,” meddai Tim Llewelyn. “Mae ei ffordd dawel a digynnwrf, ynghyd â'i ddoethineb a'i arweiniad cyson, wedi bod yn amhrisiadwy.”