Atgofion Darllenydd wedi ymddeol (Rhan 2)

Anna Bement sy’n parhau â'i hatgofion o 30 mlynedd mewn gweinidogaeth leyg ac yn awgrymu pam yr hoffech chi efallai ddilyn yn ôl ei throed.
Mae llawer o bobl yn tybio bod Darllenwyr yno’n unig i lenwi yn absenoldeb periglor, ac yn wir mae llawer o’m ffrindiau sy’n Ddarllenwyr wedi dweud bod hyn yn aml yn wir yn anffodus. Ond mae Darllenydd trwyddedig yn cael gwneud llawer mwy na hynny y tu allan i’r gwasanaethau addoli - gyda chaniatâd ac anogaeth y periglor - er enghraifft, mae arwain grwpiau cartref ac Astudiaethau Beiblaidd, grwpiau Alffa a chyfarfodydd gweddi i gyd yn rhan fawr o agweddau bugeiliol ac addysgol fy ngweinidogaeth.
Fe wnes i fwynhau sawl cynhadledd undydd a phenwythnos flynyddol a oedd hefyd yn gyfle gwych i gyfnewid straeon a dod i adnabod Darllenwyr eraill, ac i rannu’r Cymun gyda nhw.
Mae'r Esgob yn darllen ei Adroddiad Blynyddol yn y cyfarfodydd hyn ac rwy'n cofio'n iawn yn ystod Cynhadledd 2012, i’r Esgob Wyn Evans ddweud ei fod yn "siomedig o glywed bod yna ardaloedd lle nad yw gweinidogaeth y Darllenydd yn cael ei chroesawu", gan addo y byddai’n mynd i’r afael â hyn. Roedd hynny amser maith yn ôl ac rwy'n gwybod, gyda chymeradwyaeth a chefnogaeth yr Esgob Dorrien, bod yna newidiadau sylweddol wedi bod i’r ffordd y mae gweinidogaeth leyg yn cael ei chynnal ar draws yr esgobaeth wrth i lai o bobl gyflwyno eu hunain i gael eu hordeinio.
Fodd bynnag, o brofiad personol, un o'r rhwystrau mwyaf i weinidogaeth y Darllenydd yw'r ffaith bod y Foreol Weddi a’r Hwyrol Weddi wedi diflannu i bob pwrpas, gan adael dim ond Gweinidogaeth y Gair mewn gwasanaeth Cymun i’r Darllenydd i arfer ei weinidogaeth, ac yna dim ond os yw'r periglor yn fodlon gyda hynny.
Serch hynny, rwy'n ymwybodol, diolch Iddo, bod yr oes yn newid! Er enghraifft, roeddem mewn gwasanaeth yn ddiweddar lle cyflwynwyd trwyddedau i naw Arweinydd Addoliad yn Ardal Gweinidogaeth Leol Bro Glannau Tywyn a oedd yn destun llawenydd mawr. Roeddwn i'n arbennig o falch bod dau ohonyn nhw wedi bod yn aelodau o Grŵp Ieuenctid Porth Tywyn y Santes Fair ychydig flynyddoedd yn ôl.
Mae'n gyfnod heriol i'r Eglwys gydag offeiriaid yn aml dan bwysau, nid yn unig ar y Sul, i ddiwallu anghenion ysbrydol a bugeiliol eu pobl. Rwy'n credu bod gweinidogaeth leyg, a gweinidogaeth Darllenydd yn arbennig, yn rhan o'r ateb. Fy ngobaith felly yw y bydd yr erthygl hon yn annog unrhyw un sydd allan yna a allai deimlo ei fod yn cael ei alw, er efallai nid i weinidogaeth ordeiniedig, i brofi beth allai'r alwedigaeth honno fod.
Yr Archddiacon Mones Farah yw Warden y Darllenwyr esgobaethol a byddai wrth ei fodd yn clywed gennych.