Gosod y gyfraith

Yn ôl traddodiad, galwodd Hywel Dda, brenin y rhan fwyaf o Gymru, ddoethion o bob man i gysoni cyfreithiau amrywiol y wlad, a hynny yn yr Hendy Gwyn ar Dâf. Bu Hywel farw yn 950, ond rhaid disgwyl hyd 1250 cyn gweld degau o lawysgrifau Cymraeg a Lladin sy’n cynnwys y cyfreithiau. Yn fras, roedd cyfreithiau trosedd yn weithredol yn y rhannau annibynol o’r wlad hyd at y Goresgyniad, tra bod cyfreithiau sifil yn dal yn weithredol hyd 1542.
Roedd llysoedd barn yn cael eu cynnal ym mhob cwmwd yn gyson, ac os byddai’r tywysog yn bresennol, ef fyddai’n llywyddu, ond byddai’r barnwr a’i gynghorwyr (‘y gwŷr wrth gyfraith’) yn gyfrifol am y drefn.
Er bod rhai o’r llawysgrifau’n perthyn i wahanol rannau o Gymru, roedd seiliau’r drefn yr un peth. Roedd gwahaniaeth rhwng dynion caeth a rhydd, Roedd statws dynion yn uwch na merched, ond ysgariad yn haws i ferched, a rhennid eiddo’r gwpwl yn deg. Dibynnai llawer ar eich statws, a fesurwyd yn ariannol. Rhaid i deulu llofrudd dalu pris (‘galanas’), i deulu’r dyn a laddwyd, ond gellid galw’r ddau deulu i’r llys i gymryd llw o’ch plaid neu yn eich erbyn. Roedd y cyfreithiau yn dweud beth oedd gwerth ariannol y rhannau o’r corff dynol, pob anifail dof a phob dodrefnyn.
Roedd rhai nodweddion y drefn yng Nghymru’n wahanol i’n trefn cyfoes. Roedd i bob eitem o eiddo (anifeiliaid dof, dodrefn ac ati) â’i werth ariannol wedi gosod i lawr. Roedd gan bob unigolyn a rhannau ei gorff ei werth. Ni fedrai menywod etifeddu eiddo, ond roedd meibion “llwyn a pherth” (sef plant siawns) yn well eu statws nag yn Lloegr, ac yr oedd ysgariad yn fater gymharol ddibwys.
Un o’r gwahaniaethau mawr rhwng cyfraith Cymru a Lloegr oedd etifeddiaeth tir. Mynnai cyfraith Lloegr bod y mab hynaf yn etifeddu’r cyfan; roedd y drefn yng Nghymru yn dangos cydymdeimlad i’r holl feibion. Roedd hi’n fwy cymhleth pan oedd etifeddiaeth grym gwleidyddol dan sylw. Felly bu llawer o ddadleuon, brwydrau a llofruddiaethau rhwng tywysogion.
Roedd statws dyn fel Cymro yn bwysig. Os oedd yn ‘Gymro-tad-mam’ roedd yn iawn. Os oedd yn byw yng Nghymru heb y statws yna, roedd yn ‘alltud’, er efallai y medrai ei ddisgynyddion hawlio statws Cymreig.
Mae cyfreithiau Hywel yn ddogfennau pwysig yn hanes yr iaith Gymraeg, gyda geirfa gyfoethog a’r gallu i drafod materion cymhleth yn rhugl.