Dathlu ar wib
Mae 2026 yn flwyddyn bwysig i Undeb y Mamau, ac yn nodi 150 mlynedd o ffydd ar waith. Llywydd yr Esgobaeth Glenys Payne sy’n edrych ymlaen.

Ddechrau Ebrill, byddwn yn estyn croeso i’n Llywydd Byd-eang Kathleen Snow i Esgobaeth Tyddewi wrth iddi grwydro Cymru, cyn diweddu gydag ymweliad â'r Corff Llywodraethol yn y Gogledd. Bydd llawer o ddathliadau ledled yr Esgobaeth gan gynnwys diwrnod agored yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 20 Mehefin.
Ar wahân i'w hymweliad â Thyddewi, bydd y Llywydd yn cymryd rhan yn yr Her Pen-blwydd 150 oed Byd-eang, gan gwblhau pymtheg ras 10km mewn esgobaethau ledled y byd i godi arian a thynnu sylw at gymdeithas fyd-eang Undeb y Mamau.
Mae Kathleen eisoes wedi cwblhau ei ras gyntaf yn ei thref enedigol, Fredericton, Canada, un arall yn Bahrain yn ystod Synod Esgobaethol Cyprus a'r Gwlff, gan gynnal cymunedau ledled y rhanbarth mewn gweddi wrth iddi redeg.
Darllenwch y stori lawn i ddysgu mwy am yr her, lle bydd Kathleen yn rhedeg nesaf, a sut allwch chi gefnogi ei thaith - http://www.mothersunion.org/.../mu-worldwide-president.../