Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Nid yw'n ymwneud â'r hyn rydym ni’n ei roi i fyny, ond yr hyn rydym ni’n ei gymryd ymlaen.

Nid yw'n ymwneud â'r hyn rydym ni’n ei roi i fyny, ond yr hyn rydym ni’n ei gymryd ymlaen.

Lent-Course Logo [2026]

Mae adnoddau esgobaethol a thaleithiol ar gael i fynd â chi trwy dymor y Grawys.

Mae'r Grawys, i ddyfynnu'r Esgob Dorrien, "yn gyfnod o baratoi, yn gyfnod o fyfyrio ar ein perthynas â Christ. Nid yw'n ymwneud â'r hyn rydym ni’n ei roi i fyny, ond yr hyn rydym ni’n ei gymryd ymlaen."

I'r perwyl hwnnw, mae'r Eglwys yng Nghymru yn gyffredinol ac Esgobaeth Tyddewi yn arbennig, wedi cynhyrchu amrywiol adnoddau i chi eu dilyn ac i’ch tywys – boed hynny fel unigolion neu mewn grwpiau – drwy'r chwe wythnos sy’n arwain at y Pasg.

Ar lefel y dalaith, cwrs ar gyfer y Grawys yw O Grempogau i Groesau Palmwydd sy'n mynd â ni ar bererindod ledled Cymru, gan ymweld â phob un o’n chwe chadeirlan – rhyw fath o bererindod rithwir.

Bob wythnos, mae fideo 10 munud a chyfres o gwestiynau trafod sy'n cyd-fynd â nhw. Mae’r cyfan yn ddwyieithog.

Garawys 2026 – o Grempogau i Groesau Palmwydd – Yr Eglwys yng Nghymru

Yn Nhyddewi, yn y cyfamser, mae'r Esgob wedi comisiynu cyfres o fyfyrdodau'r Grawys – sydd ar gael ar-lein – sydd wedi'u cyflwyno gan glerigion o'r esgobaeth ac sydd, yng ngeiriau'r Esgob unwaith eto, "yn barod i gynorthwyo ein hymrwymiad i gadw Grawys sanctaidd wrth inni baratoi ar gyfer profiad o'r Pasg sy'n llawn llawenydd ac addewid yr atgyfodiad"

Mae'r sgyrsiau wythnosol hyn – sy'n cael eu rhyddhau bob Sul yn Gymraeg a Saesneg – yn gyfres o fyfyrdodau ar Berson Iesu, Dilyn Iesu, Y Groes ac Achubiaeth o Bechod ac Edifeirwch.

Grawys 2026: Myfyrdodau – Esgobaeth Tyddewi