Yn fy marn i...
Pam rydyn ni'n aros
Mae Samuel Patterson, Melanie Prince, Hannah Wilkinson a Jeremy Bevan, aelodau o'r Gymdeithas Efengylaidd yn yr Eglwys yng Nghymru, yn dadlau y dylid mynd i'r afael â phryder am y symud i briodasau o'r un rhyw yn yr eglwys o'r tu mewn.
Tua diwedd mis Tachwedd, cyhoeddodd Esgobion yr Eglwys yng Nghymru lythyr bugeiliol yn amlinellu eu map trywydd ar gyfer awdurdodi bendithion o'r un rhyw yn llawn, ac yna cyflwyno priodas o'r un rhyw o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
Os nad ydych chi wedi bod yn dilyn hynt a helynt y mater, mae hyn yn dilyn cyflwyno litwrgi ar gyfer bendithio cyplau o'r un rhyw ar sail cyfnod prawf, yn hydref 2021, gan y Corff Llywodraethol. Mae'r cynigion yn mynd i bleidlais ym mis Ebrill dros gynnwys y bendithion yn llawn yn y Llyfr Gweddi Gyffredin, gan ei wneud yn ychwanegiad parhaol i'n litwrgi a'n harfer, gan felly newid ein hathrawiaeth ar briodas. Byddai'r bleidlais hon wedyn yn cael ei dilyn gan un arall ym mis Ebrill 2027 er mwyn i briodasau o'r un rhyw ddigwydd.
Mae hyn wedi cael effaith fawr ar draws yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad wedi peri gofid a phryder mawr i lawer. Er bod amseriad yr ail bleidlais ar fendithion yn ddisgwyliedig, gan fod darpariaeth y cyfnod prawf yn dod i ben eleni, roedd y symudiad cyflym i bleidlais ar briodas yn annisgwyl iawn.
Mae Mainc yr Esgobion yn awyddus i bwysleisio na ddylai hyn fod yn fater sy'n rhannu eglwysi. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth yn glir bod hynny’n digwydd eisoes. Fe wnaeth y bleidlais gychwynnol ar gymeradwyo bendithion o’r fath ddifrod mawr mewn llawer o eglwysi ledled y dalaith. Mewn rhai achosion roedd hyn yn amlwg iawn, gyda chlerigion yn ymddiswyddo neu'n ymddeol yn gynnar.
Mae gennym o fewn Esgobaeth Tyddewi yn unig dair cynulleidfa Anglicanaidd newydd y tu allan i'r Eglwys yng Nghymru, sydd wedi ffurfio'n benodol oherwydd y cwestiwn hwn, gyda'r rhai sydd wedi gadael yr Eglwys yng Nghymru, a'r rhai sydd wedi aros, wedi’u brifo ac yn dioddef loes.
Ond mewn llawer o achosion bu’n llawer mwy cynnil. Clerigion yn gwneud cais am swyddi eraill y tu allan i'r dalaith wrth iddyn nhw ddod ar gael, sy'n golygu diferiad llawer arafach yn gadael; aelodau lleyg eglwysi yn penderfynu ar ôl dwys ystyriaeth i addoli mewn mannau eraill, os oedd unrhyw le arall yn lleol i addoli.
O'u cymryd fel achosion unigol, dydyn nhw’n cael fawr o effaith, ond wrth edrych ar yr hyn rydyn ni wedi'i weld yn anecdotaidd, nid yw'n nifer dibwys. Gyda'r boen a'r niwed hwn yn dal mor ffres, mae'r syniad o rwygo'r rhwymynnau oddi ar y clwyf hwnnw mor gyflym trwy symud ymhellach ar hyn yn anodd i’w ddirnad.
Mae'r rhai sy'n arddel dealltwriaeth draddodiadol o briodas, ond sydd wedi aros yn unedig yn eu hawydd i barhau i dystio, ac ymladd dros y ffydd fel y'i datgelwyd yn yr Ysgrythurau – y ffydd honno y mae'r Credoau eciwmenaidd a'r Defodlyfrau Anglicanaidd hanesyddol, yr Erthyglau a'r Homilïau, sy'n cynnwys craidd yr athrawiaeth Anglicanaidd, yn tystio iddyn nhw. Rydyn ni eisiau datgelu ffyddlondeb i'r Ysgrythur, ac i gariad Iesu o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn ein bywydau ac yn ein hathrawiaeth. I ni, dydy’r Ysgrythur a chariad ddim yn groes i’w gilydd, ac ni ellir eu gwahanu.
Efallai y byddwn yn tybio mai'r ddadl bresennol yw 'Oni fyddai'n braf gadael i gyplau o'r un rhyw briodi yn yr eglwys?' ac felly bod pawb sy'n gwrthwynebu hyn yn bobl ofnadwy sy'n gwrthod caniatáu hyn. Ond mewn gwirionedd, y cwestiwn gerbron y Corff Llywodraethol, a phob un ohonom, yw’r un am natur priodas ei hun.
Mae hefyd yn cyffwrdd â materion dyfnach fel cael ein creu ar lun a delw Duw, ac felly natur Crist a'r Eglwys, sut rydyn ni’n darllen ac yn dehongli'r Ysgrythur a'i lle yn ein bywydau, natur pechod, a beth mae'n ei olygu i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder. Nid materion eilaidd mohonyn nhw, ond craidd ein cred a'n hunaniaeth fel Cristnogion. Rydyn ni eisiau cynnal gwirionedd yr Ysgrythur, a'i awdurdod yn ein bywydau, a chyhoeddi cariad Crist, fel y'i datgelwyd yn yr Ysgrythurau, a fu farw fel y gall ein pechodau, ein methiant i fyw fel y mae Duw yn ein galw, gael eu maddau pan fyddwn yn edifarhau ac yn troi yn ôl ato; gan adnabod y bywyd newydd, yr adnewyddu, a'r gobaith tragwyddol a ddaw ganddo.
Credwn fod y materion hyn o'r pwys mwyaf a byddem yn eich annog i ddod â'r cwestiynau a'r materion hyn gerbron Duw mewn gweddi. Ac os ydych chi'n chwilio am gymdeithas, cefnogaeth ac anogaeth, cysylltwch â ni a gallwn eich cysylltu ag eraill.