Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Canmol ein gwirfoddolwyr i’r cymylau!

Canmol ein gwirfoddolwyr i’r cymylau!

Bishop's Park - Walled Garden

Mae'r drws i'r Ardd Furiog ar gau i'r cyhoedd dros dro. Dros y flwyddyn nesa, bydd cwmni lleol David A. Siggery yn gwneud gwaith caib a rhaw y tu ôl i’r pedair wal. Fodd bynnag, bydd llawer o weithgareddau eraill yn mynd ymlaen yn y parc yn 2026.

Mae tîm bach o staff yn cael eu cyflogi gan Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn ond byddai’n amhosib i ni gyflawni ein gwaith heb gefnogaeth ein holl wirfoddolwyr.

Gobeithio y bydd y darn isod yn rhoi blas i chi o’r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud:

Gwirfoddolwyr Garddio - Mae nifer o wirfoddolwyr garddio gyda ni sydd yn dod i’r parc bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Yn ogystal â’n gwirfoddolwyr annibynnol, mae dau grŵp o bobl ifanc yn mynychu’r parc yn wythnosol. Un grŵp o Ganolfan Elfed, Ysgol QE High a’r llall o Goleg Elidyr sy’n mwynhau profiad gwaith ymarferol, sef trwsio llwybrau, chwynnu borderi a pharatoi planhigion ar gyfer ein Ffair Blanhigion ar y 9fed o fis Mai.

Gwirfoddolwyr Derbynfa - Mae’r rôl bwysig hon yn gofyn am bobl sy’n mwynhau cyfathrebu ag ymwelwyr. Wedi’i leoli yn y dderbynfa, gallai bore arferol gynnwys croesawu ymwelwyr, ateb cwestiynau, hyrwyddo gweithgareddau sy’n digwydd yn y parc a chadw trefn ar blanhigion a llyfrau ail-law sydd ar werth yno.

Gwirfoddolwyr Gwisgoedd Hanesyddol - Ar brydiau, mae’n braf troedio llwybr y gorffennol i gael gweld sut roedd preswylwyr Palas yr Esgob yn arfer byw. Gan dynnu cofnodion o Gyfrifiad 1911, rydym yn gobeithio codi rhai cymeriadau o farw’n fyw. Yn 1861, buodd howsgiper, cogydd, prif nyrs, 2 forwyn, morwyn gegin, is nyrs, morwyn laeth a throedwas yn byw yn y palas yn ogystal â’r Esgob a’i deulu. Mae gwirfoddolwyr yn brysur iawn yn gwnïo gwisgoedd o'r cyfnod ar droad yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys y ffasiynol a'r beunyddiol, dillad swyddogol a dillad gwaith.

Ymddiriedolwyr - Byddai'n amhosibl creu rhestr o'r holl gyfrifoldebau sydd gan ein hymddiriedolwyr, Yn fyr, maen nhw’n gwneud penderfyniadau ar y cyd, gan weithio yn ôl telerau dogfen lywodraethol yr elusen. Hefyd, nhw yw’r gwirfoddolwyr sy’n derbyn cyfrifoldeb terfynol am sicrhau bod yr elusen yn cael ei rhedeg yn dda.

Allwch chi ein helpu ni i ddarganfod mwy am y Palas, y gerddi a’r bobl fu’n byw a gweithio yma. Rydym yn chwilio am straeon ac yn cyhoeddi deunydd newydd ar ein gwefan.

I helpu neu gyfrannu, cysylltwch â: annemay@tywigateway.org.uk