Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Straeon mynwentydd

Straeon mynwentydd

Richard Davies yn archwilio'r cysylltiad rhwng yr Esgob Anthony Rudd ac Eglwys Sant Cathen, Llangathen.

Heb os nac onibai, lle bendigedig i dreulio diwrnod ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, yw ymweld â Gerddi Aberglasney yn Nyffryn Tywi. Ond wedi mwynhau pleserau y gerddi, beth am fynd gam ymhellach ac ymweld ag Eglwys Sant Cathen, Llangathen?

Bishop Rudd Memorial [Llangathen]

Un o’r pethau mwyaf nodweddiadol i weld yno yw’r gofeb nodedig i’r Esgob Anthony Rudd a’i wraig Anne. Brodor o Swydd Efrog oedd Rudd a bu yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Cafodd yrfa ddisglair yn yr eglwys ac yn 1584 fe’i apwyntiwyd fel Deon Caerloyw cyn cael ei ddewis yn Esgob Tyddewi yn 1594.

Roedd yn cael ei gydnabod fel pregethwr da, un oedd yn ennill ffafriaeth y Frenhines Elisabeth. Yn ôl y stori, roedd y frenhines wedi ei phlesio cymaint gan Rudd fel y dywedodd wrth Archesgob Caergaint y cyfnod, John Whitgift, t yr hoffai weld Rudd fel ei olynydd. Naill ai allan o garedigrwydd neu genfigen, fe gynghorodd Whitgift bod y frenhines yn hoffi plain sermons which came home to her heart! (DNB, cyfrol 49). Felly pan ddaeth y gwahoddiad nesaf i bregethu o flaen y frenhines yn Richmond yn 1596, fe ddewisodd fel ei destun eiriau Salm 90: 12 – Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau, inni gael calon ddoeth. Ond fe aeth Rudd yn rhy bell, fe siaradodd gormod am oedran y frenhines, arwyddion ei bod yn heneiddio a bod angau yn agosau! Fel y gellir ddychmygu, nid oedd y frenhines yn hapus ac ni ddaeth unrhyw ddyrchafiad i Rudd a bu yn Esgob Tyddewi tan ei farwolaeth yn 1615.

Mae’r gofeb yn yr eglwys a ddododd Anne Rudd i goffau ei gŵr yn enghraifft gwych o’i math - un o’r enghreifftiau gorau yn y wlad. Ond peidiwch cymeryd fy ngair i – beth am fynd i weld y gofeb eich hunan?