Dyddiadur Person wedi ymddeol
Mae Christopher Lewis Jenkins yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda balchder. Ond dyw pethe ddim wastad wedi bod mor hawdd.

Pan roeddwn i’n iau, doeddwn i ddim yn ei werthfawrogi go iawn. Pan oeddwn i’n ddwy ar bymtheg, tri mis a thair wythnos oed, ymunais ag ysgol hyfforddi'r Llynges Fasnachol yn Gravesend, Caint.
Dwi’n nodi’r union ddyddiad oherwydd pe bawn i’n ddwy ar bymtheg a phedwar mis a hŷn, fe fyddwn i wedi gorfod aros nes fy mod i’n un ar hugain cyn gallu ymuno.
Beth bynnag, yn yr ysgol hyfforddi, fi oedd y Cymro (bachgen) hynaf yno ac ar ddydd Gŵyl Dewi, ar barêd, roedd yn rhaid i mi fwyta'r cennin mwyaf i mi ei weld erioed (yn amrwd). Roedd Capten yr ysgol hyfforddi yn Gymro, a dyna’r rheswm dros y seremoni, oedd yn destun tipyn o grafu pen i’r Saeson, yr Albanwyr a’r Gwyddelod oedd yno.
Yna, pan ymunais â gwahanol longau, collais fy enw, am byth, ac fel Taffy/Taff y byddai pawb yn cyfeirio ata’i. Roedd yr enw Taffy yn adnabyddus ledled y byd. Yn anffodus, roedd yn cael ei gysylltu â hen hwiangerddi yn bennaf: "Taffy was a Welshman, Taffy was a thief, Taffy came to our house and stole the piece beef etc etc”. Roedd hyn yn codi gwrychyn, yn amlwg.
Flynyddoedd yn ddiweddarach a dyma fi yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi fel offeiriad. Cefais gyfnod diddorol yn y Llynges, yn enwedig o gofio’r holl bethau gwrth-Gymreig sydd wedi digwydd gydol hanes. Gwaharddiad ar yr iaith Gymraeg, brawdlysoedd lleol yn uniaith Saesneg lle nad oedd y boblogaeth leol yn siarad Saesneg…mae’r enghreifftiau’n ddi-ben-draw.
Felly, boed i chi ddathlu ein nawddsant a mwynhau eich Cymreictod... bob amser.