Dyddiadur Gwraig Offeiriad
Mae Polly Zipperlen wedi bod yn meddwl... ydy hi'n normal bod yn rhyfedd?

Dwi’n aml yn meddwl i fy hun fod pobl, o bosib, yn meddwl fy mod i’n rhyfedd ar brydiau, er enghraifft, pan wnes i ddewis treulio dau fis ar y môr ar beiriant rhwyfo arnofiol i bob pwrpas. Ond wrth ystyried hyn, dwi’n dod i'r casgliad bod pawb ychydig yn rhyfedd a bod rhyfedd un unigolyn yn gysur i un arall. Ychydig yn debyg i'r hen ddywediad am y sêl cist car, "mae sbwriel un person yn drysor i un arall", neu yn fy achos i, mae'n drysor i gyd. Er, a ninnau ar fin symud 300 milltir, mae'n RHAID i mi fynd â chrib fân drwy fy nhrysorau.
Noson allan ddiweddar i gofio un o gydweithwyr hirdymor fy ngŵr Marcus sbardunodd y meddylu yma. Dwi ddim yn siŵr o'r term cywir ar gyfer criw o glerigion mewn un lle, ond tybed ydy 'haid' yn air priodol? Beth bynnag, dyna lle’r oeddwn i, ynghyd â phartneriaid clerigion eraill (gwragedd yn bennaf), yn difaru nad oedden ni’n ymgynnull yn amlach, a ninnau’n griw mor amrywiol a chyfeillgar.
Fodd bynnag, wrth i’r ficer a oedd yn gadael wneud yr araith "Hwyl fawr, mae wedi bod yn bleser" arferol, fe gyfeiriodd at sylw a wnaed gan ei wraig 35 mlynedd ynghynt, pan awgrymodd wrthi ei fod o bosib yn ystyried mynd i’r offeiriadaeth; "Ond mae ficeriaid yn bobl ryfedd" oedd ei hymateb. Ar y pwynt hwnnw fe wnes i chwerthin, yn bennaf oherwydd fy mod i hefyd wedi bod o’r un farn ers oes pys. Dwi ddim yn siŵr ydy hyn oherwydd neu er gwaethaf mod i’n briod ag un.
Ond efallai bod ffydd ychydig yn rhyfedd, boed yn ffydd grefyddol – Y Tad, Mab, a’r Ysbryd Glân; y fam forwyn, yr atgyfodiad; mae'r rhestr o bethau reit ryfedd yn ein ffydd yn ddiddiwedd – neu’n ffydd gyfriniol. Mae gen i ffrind sy'n llwyr grediniol mewn môr-forynion - cynffonnau, cennau, y cyfan oll i gyd. A beth hefyd am ofergoeliaeth? Mae ffrind fy mab 'yn gorfod' gwisgo ei drôns lwcus wrth chwarae rygbi, ar ôl datblygu 'ffydd' y bydd hyn yn arwain at lwyddiant mewn gêm. Yna mae'n teimlo'r angen i ymchwilio pan fyddan nhw’n cael gêm gyfartal neu’n colli gêm, sy’n digwydd yn reit aml. Mae'n teimlo bod rhaid iddo chwilio am fan gwan ffug yn naratif yr ofergoeliaeth.
O feddwl, dwi’n teimlo ei bod hi’n iawn i ni fod ychydig yn rhyfedd. A dweud y gwir, mae bod yn rhyfedd yn reit ddymunol, a’r hira’n byd rydyn ni’n nabod rhywun, y mwyaf tebygol ydyn ni o ddod o hyd i’w hochr ryfedd nhw hefyd. Felly, gadewch i ni gydnabod a dathlu ein hynodrwydd, ac os yw hynny'n cynnwys ffydd grefyddol, gwych – gorau po fwyaf yw’r 'haid'.