Urdd y Pethau Bychain
Mae Urdd Sant Dewi a’r Santes Non yn sefydliad sy'n tyfu. Ac mae Stuart Millson yn gobeithio y gall dyfu ymhellach.

Wedi'i sefydlu gan wladgarwr Cristnogol Cymreig, y diweddar Simon Evans, mae'r Urdd heddiw yn cael ei arwain gan Steve Turner sy'n sôn am yr angen i ledaenu'r gair, nid yn unig am weithgareddau'r grŵp, ond am draddodiad a gwerthoedd Cristnogaeth. “Mae rhai o'n haelodau blaenllaw yn byw ac yn gweithio yn Lloegr, felly dydyn nhw ddim bob amser yn gallu dod i ddigwyddiadau i'r gorllewin o afon Hafren. Felly eleni, rydyn ni'n gobeithio denu mwy o aelodau yng Nghymru, er nad oes rhaid i chi fod yn Gymro o reidrwydd i ymuno.”
Ychwanegodd Steve, sy'n Llundeiniwr, ond sydd â’i fam-gu yn Gymraes: “Mae'r Urdd yn croesawu pobl o bob cwr. Ond yn ein calon mae athroniaeth wylaidd ein Nawddsant: i gyflawni'r pethau bychain. A phwy a ŵyr beth ddaw yn sgil hynny?”
I'r perwyl hwn, cyflwynodd yr Urdd rodd yn ddiweddar i'r prosiect atgyweirio ac adfer yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ac eto, y nod yw adfer a chryfhau ein bywyd ysbrydol hefyd — felly rydyn ni’n galw am aelodau newydd, i helpu gyda'r holl bethau da sy'n digwydd yn yr esgobaeth a ledled Cymru.
Cariad at draddodiad, hanes, llên gwerin, seremoni, seintiau a'r ysgrythur, ynghyd ag awydd i lunio ein bywyd heddiw yng Nghymru a thu hwnt; byddai ein Hurdd gyfeillgar a chroesawgar wrth ei bodd yn clywed gennych.