Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Y bechgyn y tu ôl i’r bariau

Y bechgyn y tu ôl i’r bariau

Mae adroddiad diweddaraf Theresa Haine o Madagascar yn disgrifio sut y mae mwydod wedi helpu i adsefydlu carcharorion ifanc.

Madagascar - Prison yard

Mae carchardai ym Madagascar yn lleoedd ofnadwy ac roedd Charnette, ein partner yn ninas borthladd Toamasina, yn bryderus iawn am sefyllfa’r carcharorion yno. Does gan y wlad ddim system o roi troseddwyr ar remand wrth iddyn nhw aros am eu hachos llys. Mae hyd yn oed bechgyn eithaf ifanc yn cael eu hanfon yn syth i'r carchar ac fe allan nhw aros yno am amser hir iawn cyn i’w hachos gael ei glywed.

Mae'r amodau'n wael gyda charcharorion yn gorfod cysgu ar yr hyn y byddwn i’n ei alw’n silffoedd concrid, gyda’r bwyd yn wael ac annigonol. Darganfu Charnette fod y carchar yn berchen ar ddarn mawr o dir y tu allan i'r ddinas a pherswadiodd y llywodraethwr i ganiatáu i'r carcharorion drin y tir, gyda chymorth peirianwyr amaethyddol a gafwyd gan Adran Ddatblygu'r Eglwys Brotestannaidd Unedig (SAF) a staff y prosiect.

O ystyried eu gwendid yn sgil eu bwyd annigonol, fe wnaeth y carcharorion waith anhygoel, gan greu caeau reis lle gellid tyfu digon o reis i roi un pryd reis y dydd i bob carcharor. Aeth y dynion hefyd ati i gloddio pyllau pysgod a lleiniau llysiau fel y gallen nhw gael fitaminau a phrotein yn eu diet.

Madagascar - Plants in pots.

Dysgwyd y bechgyn sut i dyfu llysiau yn y llain fach o dir o amgylch eu hystafell gysgu ac i wneud compost mwydod mewn cynwysyddion plastig a gasglwyd o domen y dref. Yn anffodus, gyda chynnig cyntaf y bechgyn i gompostio, fe wnaeth llygod mawr fwyta'r holl fwydod. Felly, fe aethon nhw ati i adeiladu cwpwrdd storio wedi'i warchod gan rwyll wifren, a dyna ddatrys y broblem llygod.

Ar ôl cael eu rhyddhau, cafodd y bechgyn ganiatâd i fynd â'u potiau o gompost adref gyda nhw a dysgu eu rhieni sut i'w wneud e. Ffordd ardderchog i'r teuluoedd dyfu llysiau neu flodau i'w gwerthu gan roi hwb i’w hincwm fel teulu.

Madagascar - Rickshaw

Pan wnaethon ni ymweld â'r bechgyn am y tro cyntaf, carcharor oes oedd yn gyfrifol amdanyn nhw. Llwyddodd Charnette i newid hynny a chymerodd swyddog carchar caredig yr awenau. Crëwyd cwrt pêl fas ar eu cyfer a brofodd yn boblogaidd iawn a dechreuwyd dosbarthiadau llythrennedd.

Mae'r tîm SAF yn helpu'r bechgyn hŷn ar ôl eu rhyddhau i ddod o hyd i waith mewn meysydd fel golchi ceir. Llogodd un feic-ricsio gan lwyddo cystal fel iddo allu prynu'r ricsio yn y pen draw.

Mae Money for Madagascar wedi ariannu’r gwaith SAF hwn yn y carchar ac rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi gallu gwneud hynny.