Esgob i arwain Caplaniaeth Frenhinol newydd Cymru
Mae'r Esgob Dorrien wedi cael ei ddewis gan y Brenin i fod yn Ddeon sefydliad Cymreig newydd.
![Royal Cypher [King' Chaplaincy]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Royal_Cypher.width-500.png)
Yn draddodiadol, mae Caplaniaid Anrhydeddus y Brenin wedi cael eu penodi ar gyfer Eglwys Loegr ac Eglwys yr Alban ond nawr, am y tro cyntaf, mae hyn wedi'i ymestyn i gynnwys Cymru.
Mae'r Caplaniaid yn uwch aelodau o'r glerigiaeth sy'n cael eu penodi gan y brenin i gydnabod gwasanaeth nodedig. Mae'r rôl yn un fygedol ac yn rhan o'r Osgordd Eglwysig, y corff hanesyddol o glerigion sy'n gwasanaethu'r Brenin neu’r Frenhines.
Mae gan Eglwys Gadeiriol Tyddewi gysylltiadau hanesyddol â'r Teulu Brenhinol ers oes y Tuduriaid. Mae'n unigryw ymhlith eglwysi cadeiriol yn y DU gan fod y Brenin neu’r Frenhines bob amser yn ganon anrhydeddus o gabidwl yr eglwys gadeiriol, gyda sedd arbennig yn y côr.
Mae'r Gaplaniaeth yn cynnwys chwe chlerig, un o bob esgobaeth, yn ogystal â'r Esgob fel Deon. Y Parchg Ganon Michael Rowlands, Deon Ardal Gweinidogaeth Leol Tir Dewi Mwyaf ar hyn o bryd, yw’r sawl a benodwyd o Dyddewi.
Hefyd, penodwyd y Parchg Ddr Emma Whittick, cyn gaplan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan, ac sydd bellach yn Gaplan i Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lewis.
Bydd y Caplaniaid yn gwisgo casog sgarlad nodedig a bathodyn gyda'r seiffr Brenhinol, y byddant yn ei dderbyn gan y Brenin ei hun ar ddydd Iau Cablyd pan fydd yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol Llanelwy i ddosbarthu'r Arian Cablyd blynyddol.
Bydd pob Caplan yn cael y cyfle i bregethu mewn preswylfa Frenhinol a mynychu Garddwest. Gallwch hefyd ddisgwyl eu gweld yn eu gwisgoedd sgarlad mewn digwyddiadau dinesig.