Yn ôl i'r ysgol
Neilltuwyd portffolio addysg y Dalaith i’r Esgob Dorrien ar Fainc yr Esgobion, sy’n cyd-fynd â’i gyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd.
Mae hwn yn faes sy'n agos at ei galon ac mae eisoes wedi cymryd diddordeb mawr yng ngwaith ysgolion yn ei esgobaeth.
Mae'n gefnogwr brwd o ddysgu gydol oes, ac yn grediniol ei fod o fudd i leygion a chlerigion fel ei gilydd. Mae wedi hyrwyddo ac annog grwpiau llyfrau, cyrsiau Grawys ac yn annog pobl i ddysgu Cymraeg hefyd.
Dywedodd yr Esgob Dorrien: "Rwy'n benderfynol o adeiladu ar dreftadaeth gyfoethog addysg yn y traddodiad eglwysig yng Nghymru, o sefydliad Sant Illtud yn yr hen oes, i enedigaeth addysg brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, i greu Athrofa Padarn Sant yn ddiweddar.
"Rydw i am annog pawb i fanteisio ar y cyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes ac rwy'n gobeithio cyfrannu’n ystyrlon at dwf gwybodaeth Gristnogol ledled ein gwlad."