Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2026 Ydych chi'n drysorydd eglwys?

Ydych chi'n drysorydd eglwys?

Yna mae hwn i chi.

Elusen yw Cymdeithas Cyfrifwyr a Thrysoryddion Eglwysi (ACAT) sy'n hyrwyddo'r ffydd Gristnogol trwy ddarparu cyngor, hyfforddiant a gwybodaeth i aelodau ar faterion cyfrifyddu, ariannol, cyfreithiol a materion cysylltiedig eraill. Clare Walker sy’n amlinellu'r manteision.

Mae gan yr Eglwys yng Nghymru aelodaeth bloc gydag ACAT. Cysylltwch â mi (clarewalker@cinw.org.uk) i gael gwybod sut i greu manylion mewngofnodi a manteisio ar fuddiannau ACAT.

Mae manteision Aelodaeth ACAT yn cynnwys

  • Gwefan: Mae gan aelodau fynediad at ardal wedi'i diogelu gan gyfrinair ar wefan ACAT sy'n cynnwys Llawlyfr ar-lein, straeon newyddion unigryw a gwybodaeth hanfodol arall.
  • Llawlyfr: Canllaw cynhwysfawr, cyfredol ar bob mater sy'n ymwneud â chyllid eglwysi. Mae'r meysydd dan sylw yn cynnwys: GDPR; Cadw cyfrifon; Paratoi'r Adroddiad Blynyddol; Cymorth Rhodd; Archwiliad Annibynnol; Cofrestru fel Elusen; Rheoli Risg; Hawlfraint, Trwyddedau a Chodi Arian; TAW; Datblygu Eiddo
  • Canllaw Rhagarweiniol ar gyfer Trysoryddion Eglwys newydd: llyfryn sy'n rhoi trosolwg o rôl y trysorydd newydd.
  • Llinell Gyngor i Aelodau: Cymorth pryd bynnag y bydd ei angen dros y ffôn neu ar e-bost.
  • E-Gylchlythyrau – sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi gan ACAT, CThEF a'r Comisiwn Elusennau, ymhlith eraill.
  • Hyfforddiant - Mae ACAT yn cynnal rhaglen reolaidd o hyfforddiant. Mae'r cyrsiau yn cael eu cyflwyno gan hyfforddwyr neu "bartneriaid" profiadol gyda chefndir cryf mewn cyllid eglwysig yn ogystal ag arbenigwyr mewn cyfraith cyfrifyddu, trethi ac elusennau. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys: Bod yn Drysorydd - yr Hanfodion; Cymorth Rhodd a GASDS; Cynhyrchu Incwm a Cheisiadau am Grantiau; Archwiliad Annibynnol; Cyfrifoldebau Ymddiriedolwyr; a Chyllidebu a Chynllunio.
  • Cynhadledd Flynyddol - Mae ACAT yn cynnal y digwyddiad mwy hwn i fynd i'r afael â'r materion pwysicaf ym maes cyllid eglwysi. Rydyn ni’n gwahodd prif siaradwyr sy'n arbenigwyr yn eu meysydd a hefyd ystod eang o arddangoswyr o ddarparwyr meddalwedd, yswirwyr, cyfreithwyr a chyflenwyr ynni