Llwyddiant ysgubol
Roedd Bore Organ Agored Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberystwyth, yn llwyddiant ysgubol. Tessa Briggs sy’n adrodd o'r digwyddiad ac yn gwahodd darllenwyr i ddod i ganu'r organ ym mis Ebrill
Cafodd ein digwyddiad ei ysbrydoli gan brosiect canu'r organ Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig, er nad oedd yn rhan o’r cynllun hwn.
Fe wnaethon ni hysbysebu'r digwyddiad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol, hysbysfyrddau ac yn y wasg leol ac yna agor ein drysau i unrhyw un a oedd â diddordeb mewn canu ein horgan (Conacher). Roeddem wrth ein bodd gyda'r ymateb, a chroesawyd tua 25 o bobl i'n heglwys - daeth un cyn belled ag Aberteifi ond roedd y rhan fwyaf o'r ardal leol, er nad oedden nhw'n dod i Eglwys y Drindod Sanctaidd yn rheolaidd.
![Daniel Smith [organist Holy Trinity Aberystwyth]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Daniel_Smith_3.width-500.jpg)
Dechreuodd un o'n horganyddion, Daniel Smith [yn y llun], y bore trwy chwarae Ombra Mai Fu (Largo Handel o'r opera Xerxes) i ni. Yna rhoddodd gyflwyniad byr ar gymhlethdodau'r organ, gan gynnwys y stopiau a’r pedalau, ac yna gwahoddwyd unrhyw un a oedd â diddordeb i roi cynnig arni.
Derbyniodd tua 15 o bobl, o bob oed a phob lefel o allu, y gwahoddiad ac, o dan arweiniad Daniel, fe gawson nhw flas ar ein horgan ryfeddol. Cafodd rhai sawl tro ac ers hynny mae un wedi canu'r organ yn wirfoddol i ni ar ddiwedd ein gwasanaeth ar fore Sul. Diolch i Daniel am ei holl waith caled - gallwch ei wylio yn chwarae Ombra Mai Fu ar YouTube yn: "OMBRA MAI FU"/ "LARGO ALLAN O XERXES" HWV 40 gan G.F. Handel (1685 - 1759)
Rydyn ni’n bwriadu cynnal Bore Organ Agored arall ddydd Sadwrn, 18 Ebrill am 10.30am, pan fydd Daniel yn chwarae Toccata a Ffiwg Bach cyn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb i roi cynnig arni. Mae croeso i bawb (gallwch ddod â’ch cerddoriaeth eich hun) – mae'r digwyddiad yn un rhad ac am ddim a bydd lluniaeth ar gael. Am ragor o wybodaeth, neu i gysylltu â ni, ewch i'n tudalennau Facebook: HolyTrinityAber