Dathliad y Dwyrain Canol
John Holdsworth sy’n adrodd ar ben-blwydd nodedig
Mae pobl weithiau'n synnu i ddarganfod bod gan yr Eglwys Anglicanaidd Dalaith sy'n cwmpasu'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, ardal sy'n gysylltiedig ag Islam, ac mewn ystyr grefyddol wedi'i dominyddu gan y grefydd honno. Y newyddion da yw bod presenoldeb Anglicanaidd hynod egnïol yn yr ardal, a'r mis hwn mae'n dathlu ei 50 mlwyddiant fel talaith ar wahân. Bu presenoldeb Anglicanaidd yn yr ardal ers llawer mwy na 50 mlynedd, ond mae'r Jiwbilî yn nodi sefydlu'r ardal fel Talaith ar wahân.
Mae'n arwydd o'i llwyddiant bod rhan Gogledd Affrica o'r Dalaith, a arferai fod yn Esgobaeth yr Aifft, bellach yn Dalaith ar wahân - Talaith Alexandria - gyda phedair esgobaeth ac eglwysi yn Ethiopia, yr Aifft, Libya, Algeria, Tunisia a Chad (lle mae'n tyfu ar gyflymder aruthrol gyda 30 a mwy o eglwysi newydd yn agor yn ystod y flwyddyn ddiwethaf). Mae gan Esgobaeth Gambella, rhan o Ethiopia, fwy na 150 o eglwysi, llawer ohonyn nhw mewn gwersylloedd ffoaduriaid lle maen nhw’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i gytgord llwythol.
Mae gwasanaethau wedi cael eu cynnal yn Jerwsalem, Llundain a Bahrain i nodi'r Jiwbilî hwn. Roedd Esgobaethau Iran, a Chyprus a'r Gwlff, hefyd yn rhan o drefniant 1976. Mae gan Esgobaeth Jerwsalem eglwysi yn Israel/Palesteina, Gwlad yr Iorddonen, Libanus a Syria. Yn Israel a'r Lan Orllewinol mae ganddi dystiolaeth werthfawr o bresenoldeb, sydd dan fygythiad i ryw raddau gan ymfudiad Cristnogion Palesteinaidd, y mae eu bywyd dan feddiannaeth yn hynod o anodd, ac sy'n cael eu brawychu’n bwrpasol i adael.
Dydyn nhw ddim wedi gallu arfer eu gweinidogaeth draddodiadol o groesawu pererinion yn ystod y blynyddoedd diwethaf ond maen nhw bellach yn daer am weld ymwelwyr yn dychwelyd. Mae Cymdeithas Eglwysi Jerwsalem a'r Dwyrain Canol (JMECA), sy'n cefnogi gweinidogaeth yn yr eglwysi Anglicanaidd, yn dal un gronfa sy'n benodol ar gyfer ymgeiswyr am y weinidogaeth a gweinidogion yr Eglwys yng Nghymru i astudio yng Ngholeg San Siôr yn Jerwsalem a byddai'n croesawu ymgeiswyr. Roedd yr Esgob Wyn yn fuddiolwr o'r gronfa hon pan oedd yn ymgeisydd.
Mae gwefan JMECA (jmeca.org.uk) yn cynnwys llawer o straeon ysbrydoledig am y gwaith sydd wedi’i wneud gan eglwysi’r ardal, trwy’r ysbytai, ysgolion, prosiectau cymunedol a chyda'r ffoaduriaid niferus o'r rhyfel yn Sudan. Mae hefyd yn cynnwys datganiadau swyddogol gan Arweinwyr a Phatriarchiaid yr Eglwysi yn Jerwsalem, gyda’r datganiadau diweddaraf yn feirniadol iawn o ddylanwad Seioniaeth Gristnogol.