Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Amser i Frogaod!

Amser i Frogaod!

European_Common_Frog [© Wikipedia Creative Commons Attribution-Share Alike 2.5 Generic ]

Mis Mawrth yw'r mis ar gyfer hela brogaod. Harriet Carty o Gofalu am Erw Duw sy’n awgrymu lle gallech ddod o hyd iddyn nhw

Gellir eu gweld a'u clywed mewn pyllau ledled y wlad gyda'r brogaod gwrywaidd y cyntaf i symud i mewn i aros i'r menywod gyrraedd. Mae'r gwrywod yn galw i'w denu ac unwaith y bydd y menywod wedi cyrraedd bydd y gwryw yn glynu wrth y fenyw, gan lapio o'i chwmpas gyda'i aelodau blaen gan ddefnyddio ‘padiau cenhedlu’ arbennig ar gyfer gallu dal mwy o afael. Mae'r fenyw yn dodwy ei grifft yn y pwll, ac yna caiff ei wyau eu ffrwythloni ar unwaith gan y gwryw. Ym mis Mawrth gallech fod yn lwcus i weld brogaod gwrywaidd a benywaidd yn ogystal â grifft sy’n datblygu.

Beth yw cysylltiad hyn i gyd â’n mynwentydd? Ychydig iawn o fynwentydd sydd â phyllau ond maen nhw’n llecynnau pwysig i amffibiaid yn gyffredinol, gan gynnwys brogaod. Mae brogaod yn treulio llawer o'u hamser ar y tir ac mae claddfeydd yn gynefin rhagorol.

Mae brogaod yn chwilio am fwyd mewn glaswelltir, gerddi, coetir ac ymhlith twmpathau glaswellt a phrysgwydd. Mae llawer o fynwentydd yn cynnwys rhai neu bob un o'r cynefinoedd hyn yn agos at ei gilydd, clytwaith o wahanol lecynnau sy'n darparu bwyd a lloches yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn a'r tywydd. Mae gan frogaod groen hydraidd llaith ac felly allan nhw ddim goddef llawer o'r cemegion a ddefnyddir mewn gerddi ac ar dir fferm. Mae mynwentydd yn tueddu i fod yn llefydd rhydd o gemegion, sy’n golygu y gallan nhw fod yn llawn infertebratau blasus. Gall eu hamgylchedd effeithio ar liw brogaod ac efallai y gwelwch chi frogaod coch neu hyd yn oed felyn mewn rhai mannau.

Felly, er na welwch chi frogaod yn eich mynwent leol ym mis Mawrth, cymerwch gip mewn pyllau gardd o amgylch claddfeydd ac efallai y dowch chi ar draws sawl un sydd wedi dod i'r pwll i fridio, cyn dychwelyd yno am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Mae mynwentydd a chladdfeydd yn cynnwys llond gwlad o dyllau bach maint broga, craciau a holltau yn y ddaear, henebion fel beddrodau sydd â bylchau a thyllau neu guddfannau o dan wreiddiau hen goed. Bydd llawer o'r rhain yn cael eu defnyddio gan frogaod wrth aeafu - felly hefyd waliau ein mynwentydd, yn enwedig waliau cerrig sychion. Gallwch helpu brogaod, yn ogystal ag amffibiaid eraill, trwy greu mwy o gynefinoedd iddyn nhw. Beth am gael rhai ardaloedd o weirglodd neu ardaloedd twmpathog, garw rownd y cefn ac allan o'r golwg? Beth am bentyrru rhywfaint o goed marw mewn ardal gysgodol? Mae tomen gompost hefyd yn hen ffefryn. Bydd y naill a’r llall yn pydru’n raddol gan ddarparu lloches ardderchog - a gwledd o fwyd ar yr un pryd!