Mae’r Flwyddyn Plant, Ieuenctid a Theuluoedd
![CYF WEelsh Logo [PIT]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/4.width-500.jpg)
… - wedi hen ddechrau – y diweddaraf gan Sophie Whitmarsh am yr hyn sydd ar y gweill.
![LAMPS Passion Play poster [CYF]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/LAMPS_Passion_Play_poster.width-500.png)
Ym mis Ebrill bydd tri pherfformiad o gynhyrchiad o’r Dioddefaint, a ddaw i ni gan gwmni theatr LAMPS - ar 14 Ebrill yn Eglwys yr Holl Saint Rhydaman, ar 15 Ebrill yn eglwys yr Ysbryd Glân, Hakin, ac ar 16 yn Eglwys San Mihangel, Aberystwyth. Mae tocynnau ar gael ar y dudalen digwyddiadau ar y wefan.
Mae sawl digwyddiad hyfforddi bach ar-lein eisoes wedi eu cynnal i'ch helpu gyda gwaith Plant, Ieuenctid a Theuluoedd, yn cynnwys hyfforddiant graffeg ar-lein Canva ac ymgynghoriad ar-lein ar ba hyfforddiant ysgolion y gallai fod ei angen arnoch.
Mae digwyddiadau hyfforddi ar-lein ar gyfer cynnal eglwys Lego, trefnu lle i weddïo mewn ysgolion, ymgysylltu ag ysgolion ac addoli ar y cyd, eglwys wyllt, hyfforddiant Padlet a llawer mwy. Am ragor o wybodaeth am hyfforddiant ac adnoddau eraill, cymerwch gip ar y wefan neu ar y tudalennau Facebook.
Ym mis Mai, bydd tair gŵyl i blant, a bydd y ffurflenni archebu ar gael toc wedi hanner tymor mis Chwefror. Mae'r digwyddiadau hyn ar gyfer ysgolion, a byddant yn cysylltu thema heddwch â'r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ystod o weithgareddau, gan ennyn diddordeb y plant a’u helpu i ddeall mwy am yr Efengyl ac am Iesu. Mae'r gyfres hon o ddigwyddiadau yn estyniad o ŵyl y Dyrchafael, sydd wedi’i chynnal yn draddodiadol yn y Gadeirlan. Ond eleni mae’r hen drefn yn newid a bydd y dathliad yn cael ei gynnal ym mhob un o'r tair archddiaconiaeth. Mae angen gwirfoddolwyr arnom i sicrhau llwyddiant y digwyddiadau hyn, felly os ydych ar gael i helpu ar 14, 19 neu 20 Mai cysylltwch â ni, sophiewhitmarsh@cinw.org.uk.
Ym mis Mehefin, cynhelir Cynhadledd Cenedlaethau'r Dyfodol ar y 14eg. Y bwriad yw dwyn ynghyd y rhai sy'n gweithio yn asiantaethau a sefydliadau'r eglwysi a'r sector gwirfoddol, i rannu arferion gorau, rhwydweithio a darganfod sut y gallwn gefnogi ein gilydd yn ein gwaith, gan dynnu sylw at rai o'r materion allweddol y mae ein pobl ifanc yn eu hwynebu a llunio cynllun ar gyfer symud ymlaen.
Ym mis Awst byddwn yn cynnal y Bererindod flynyddol i’n pobl ifanc i Dyddewi. Mae'r ffurflenni archebu eisoes wedi eu cyfieithu a'u hanfon allan, ac maen nhw bellach ar gael ar y wefan.
Am ragor o wybodaeth am y flwyddyn plant, ieuenctid a theuluoedd, ewch i’r wefan. www.stdavidscyf.org.uk.