Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Pŵer anorchfygol gobaith

Pŵer anorchfygol gobaith

Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru, Mari McNeill, sy’n edrych ymlaen at Wythnos Cymorth Cristnogol eleni, a gynhelir rhwng 11 ac 17 Mai, gan nodi pen-blwydd yr elusen yn 80 oed.

Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, daeth eglwysi ym Mhrydain ac Iwerddon at ei gilydd i ysgogi cymorth i ffoaduriaid yn Ewrop. Ers wyth degawd, rydyn ni wedi bod yn fynegiant o ffydd yng ngrym anorchfygol gobaith i greu byd mwy cyfiawn a heddychlon. Rydyn ni bob amser yn dweud 'ni', oherwydd mae Cymorth Cristnogol yn fudiad o bobl a phartneriaid y mae llawer o gymunedau yng Nghymru wedi bod yn rhan ohono ers y cychwyn cyntaf, neu o’r cyfnod hwnnw fwy neu lai.

Christian Aid [Sudan]

©Havard Bjelland/NCA

Y llynedd yn unig, buom yn gweithio gyda 260 o bartneriaid i gyrraedd 4.5 miliwn o bobl trwy gannoedd o brosiectau, o gymdeithasau cynilo a benthyciadau i fentrau ffermio cydweithredol, a hyfforddiant risg trychinebau hinsawdd i gynlluniau gofal iechyd. Heddiw, yn Gaza ac ar draws y Dwyrain Canol, mae ein partneriaid yn darparu cymorth achub bywyd i sifiliaid sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro. Yn Sudan a De Sudan, mae ein partneriaid yn ymateb i anghenion miliynau o bobl sydd wedi'u dadleoli ac yn wynebu bygythiad o newyn a marwolaeth oherwydd gwrthdaro treisgar.

Wrth i ni ystyried anghenion ein byd yn 2025 a myfyrio ar ein ffydd sy’n ein galw mewn modd mor rymus i garu ein cymydog, hoffem eich gwahodd chi fel unigolion, eglwysi a chymunedau yn Esgobaeth Tyddewi i fyfyrio ar bŵer gobaith anorchfygol a'r hyn y mae'n ei olygu i ni heddiw wrth i ni barhau i roi, gweithredu a gweddïo. Os hoffai eich eglwys gynnal unrhyw wasanaethau neu ddigwyddiadau arbennig, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i wybod sut y gallwn gefnogi: wales@christian-aid.org

Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus, a'ch ffydd yng ngrym anorchfygol gobaith.

I ddod – Taclo Tlodi y Grawys hwn

Mae'r cwrs chwe wythnos hwn wedi'i gynllunio gyda phartneriaid anhygoel yn y DU ac yn fyd-eang i helpu i gael dealltwriaeth ddyfnach o'r cysylltiad rhwng ffydd a thlodi. Mae'n ddelfrydol ar gyfer y Grawys ac ar gael yn llawn yn Gymraeg hefyd: Taclo Tlodi - Cymorth Cristnogol