Yr Ardd Ddirgel...datgelu
Anne May, an Engagement Officer for the Walled Garden at the Bishop's Park in Abergwili, relates the background to an exciting restoration project
Yn 2018 llofnododd elusen Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn, brydlesi 30 mlynedd gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Chorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer rheoli, cynnal a chadw tiroedd Plas yr Esgob a’r Ardd Furiog.
Ers 2023, prif nod y swydd oedd ceisio darganfod beth fydd yn denu cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol i’r ardd. Mae'n fraint gweithio mewn lle mor swynol gyda grwpiau a mudiadau lleol. Diolch o galon i’n gwirfoddolwyr a grwpiau eraill fel Coleg Elidyr, Ysgol Maes y Gwendraeth, EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig ) a Dr Mz. i enwi ychydig.
Lle hudolus yw’r ardd furiog hanner erw, sy’n cuddio tu ôl i furiau uchel ers amser maith.
Mae’r cysylltiad rhwng Esgobion Tyddewi ac Abergwili’n mynd nôl dros 700 o flynyddoedd. Sefydlodd yr Esgob Thomas Bek goleg eglwysig yn Abergwili ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Bu'n gartref i'r esgob o ganol yr 16eg ganrif hyd 1974.Mae'r palas a'r parc wedi chwarae rhan bwysig yn hanes y Gymraeg. Yma lluniodd William Salesbury y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin.
Gyda chofnodion yn dyddio'n ôl i’r 1790au mae llawer o bobl yn dal i gyfeirio ati fel yr ardd ‘gyfrinachol’, am ei bod wedi’i chuddio ar ochr orllewinol y Parc. Unwaith yn galon i'r ystâd roedd yr ardd yn hanfodol o ran cynhyrchu ffrwythau a llysiau ar gyfer bord yr Esgob o'r ddeunawfed ganrif hyd at y saithdegau.
Gwenonwy Owen (1887-1981) oedd merch hynaf yr Esgob John Owen. Mae dau bentwr o’i dyddiaduron yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n cynnwys atgofion ei phlentyndod ym Mharc yr Esgob. Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n debyg mai gardd breifat ei thad, oedd ei lloches rhag bwrlwm y palas.
Dyma rai o’i hatgofion o’r gerddi: “Roedd gennym ni dair gardd. Yr un fach ac un fawr iawn oedd wedi ei thrin yn dda, lle’r oedd y tai gwydr a gardd fawr ger yr orsaf ar gyfer tatws a rhai ffrwythau. Roedd yno dŷ haf braf a deildy braf iawn, wedi’i orchuddio â gwyddfid, mewn rhan arall o’r gerddi.”
Yn anffodus tra bod gwaith adfer yn cael ei wneud yno, nid yw'r ardd furiog ar agor i'r cyhoedd. Yn ddiweddar, cyflwynodd Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn gais manwl i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Os bydd hyn yn llwyddiannus y byddwn yn gallu trefnu teithiau gardd furiog yn ogystal ag amserlen gyffrous o weithgareddau.
Llun: Anne May ac ei chydweithiwr, Teresa Walters