Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Gwersi Auschwitz

Gwersi Auschwitz

Auschwitz [frederick-wallace--unsplash]

Myfyrdod personol gan Mones Farah

Dwi wedi ymweld ag Auschwitz ddwywaith a’i gael yn brofiad dirdynnol ofnadwy. Does dim geiriau all ddisgrifio’r drygioni enbydus y gellir ei deimlo yno o hyd. Yn ystod y diwrnodau cyn fy ymweliad, ac am wythnosau wedyn, roedd un cwestiwn yn parhau i’m poeni: sut gallwn ni, yn fodau dynol, achosi’r fath ddioddefaint arswydus i’n gilydd?

Mae’r ymweliad wedi fy ngorfodi i edrych ar botensial y tywyllwch sy’n byw ym mhob un ohonom - hyd yn oed ynof fi fy hun, er yr achubiaeth o ddod i adnabod Iesu. Dwi’n cyd-fynd i’r carn â’r datganiad Iddewig ac Israelaidd: “Chaiff hyn byth ddigwydd eto.” Mae llawer o arweinwyr Iddewig ac Israelaidd, crefyddol a deallusol, wedi ehangu’r datganiad hwn a’i wneud yn alwad gyffredinol: “Chaiff hyn byth ddigwydd eto i unrhyw un, yn unrhyw le.”

Dyma egwyddor sy’n rhaid i bob un ohonom ei mabwysiadu a’i harddel. Ond eto, er mwyn gwireddu’r addewid rhaid i ni, ac yn arbennig y rhai sydd mewn grym yn ein plith, ystyried yr ofnau a’r poenau sydd ynom ni ein hunain - y brwydrau mewnol sy’n gallu bwydo’r cythreuliaid a all fod yn llechu ynom ac a allai beri bod erchyllterau o’r fath yn digwydd.

Ar ôl yr achlysur diweddar i gofio am erchyllterau Auschwitz, daeth gobaith i mi yn adroddiadau’r wasg Israelaidd fod 650,000 o bobl Gaza yn dechrau dychwelyd i ogledd Gaza. Ai cywiro camwedd yw hyn? Ac ydy hyn yn arwydd proffwydol o ddyfodol gwell? Rwy’n taer weddïo mai dyna ydyw.

>Gweddïwch gyda mi dros holl oroeswyr yr Holocost a’u disgynyddion.

> Gweddïwch gyda mi dros bawb sy’n wynebu erchyllterau arswydus ledled y byd.

> Gweddïwch gyda mi dros arweinwyr y byd, y bydd iddynt mewn rhyfel, gynnal cyfiawnder, trugaredd a gostyngeiddrwydd gerbron Duw.

> Gweddïwch gyda mi ar i arweinwyr crefyddol o bob ffydd fod yn llais cadarnhaol sy’n annog parch, anrhydedd, cyfiawnder, trugaredd, iachâd a heddwch i bawb.

> Gweddïwch gyda mi dros bawb sydd wedi eu halltudio a’u digartrefu ledled y byd.

> Gweddïwch gyda mi y bydd y rhai ‘sydd ganddyn nhw’ yn gweithredu gyda haelioni tuag at y rhai ‘sydd heb’, gan wneud hyn yn ddiamod.

> Gweddïwch gyda mi drosom ni ein hunain, y bydd i ni fyw ein bywydau yn helpu eraill, yn deall yr effaith a gawn ar y byd gan sicrhau bod ein dylanwad er daioni, yn enwedig ar y rhai y gallem eu galw’n “elynion” gan eu trin, eu caru, eu hamddiffyn a’u gwasanaethu fel cymdogion