Y gwrthdaro anghofiedig
Mae gwrthryfel gan wrthryfelwyr yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd ddwyreiniol y Congo wedi arwain at fwy na 3,000 o farwolaethau yn ôl y Cenhedloedd Unedig ac anafiadau di-ri yn Goma. Mae dinas Bukavu, yn ein Hesgobaeth Cydymaith o'r un enw. wedi’i meddiannu bellach hefyd. Ein gohebydd sy’n disgrifio sefyllfa sy'n gwaethygu ac yn apelio am heddwch

Efallai mai rhan ddwyreiniol Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC) yw un o ranbarthau'r byd sydd wedi gweld y trasiedïau mwyaf o unrhyw fath ers y 1990au. Fodd bynnag, o'i gymharu â’r ymladd a’r gwrthdaro sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r byd, mae'r gwrthdaro hwn yn cael llai o gyhoeddusrwydd, sy'n arwain at dawelwch hunanfodlon ar lefel fyd-eang. Ymhob cwr o'r byd, rydyn ni’n gwybod y manylion lleiaf am yr hyn sy'n digwydd yn Wcráin, Palesteina a hyd yn oed Yemen, ond ychydig a glywn am ardal ddwyreiniol Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.
Mae’r rhanbarth yn gyfoethog mewn mwynau a chyfeirir at helaethrwydd y deunyddiau hyn sydd eu hangen ar y diwydiant electroneg yn aml fel sgandal ddaearegol. Mae’r sefyllfa hon yn denu sylw gwladwriaethau a chwaraewyr eraill sy’n chwilio am y deunyddiau crai strategol hyn ar gyfer eu diwydiannau eu hunain. Wrth fynd ar drywydd didostur eu buddiannau eu hunain, maen nhw’n cael eu hysbeilio heb unrhyw ystyriaeth i fywydau dynol. Yn hytrach na bod o fudd i gymunedau lleol, mae’n creu gwrthdaro arfog gwastadol, yn dadleoli poblogaethau enfawr ac yn annog torcyfraith o bob math, gan ychwanegu at y drychineb.
Agwedd arall i'w hystyried yw bod tir o'r pwys mwyaf o fewn cymunedau lleol. Dydy hon ddim yn broblem ynddi hi ei hun ond, yn anffodus, mae'n ysgogiad y gall ymosodwyr ei ddefnyddio i rannu cymunedau a manteisio ar yr anhrefn i gael mynediad at adnoddau. Mae'r un peth yn wir am adnoddau naturiol eraill, fel dŵr, sy'n cymell pobl i heidio o ardaloedd eraill sydd dan fygythiad sychder - ffynhonnell ansefydlogrwydd arall yn y rhanbarth. Mae'r un peth yn wir am rai materion ethnig. Dyma rai o'r cymhellion y mae grymoedd allanol yn eu defnyddio i gyfreithloni eu gweithredoedd yma.
Yn ei rôl o sicrhau lles pawb, mae Gwladwriaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn dal i fethu â mynnu ei hawdurdod ledled y diriogaeth genedlaethol. O ganlyniad, mae'r sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth. Er bod rhai yn priodoli'r sefyllfa hon i arweinyddiaeth y wlad, mae eraill yn pwyntio'r bys at symudiadau allanol. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n gwaethygu'r argyfwng.
Er gwaethaf y darlun a geir uchod, mae'r bobl sy'n byw yn y rhanbarth hwn yn naturiol groesawgar ac mae'n lle da i fyw o ran hinsawdd, tirwedd a chymuned. Felly mae'n bryd i bob ochr gydnabod eu cyfrifoldebau a rhoi diwedd ar unwaith i'r gwrthdaro hwn, sy'n fyd-eang ei gwmpas, er mwyn sefydlu heddwch parhaol yn y rhanbarth.