Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2025 Y Newid Mawr

Y Newid Mawr

1951, Roeddwn i’n 8 oed, fy mrawd yn 6 oed. Roedd fy nhad yn gurad yn Llanymddyfri. Yna, fe gafodd fywoliaeth yng ngogledd Sir Benfro- Bridell gyda Llantwyd, ddim ym mhell o Gilgerran ac Aberteifi.

Bridell

Ar unwaith teimlais bod fy myd wedi newid. Y sioc cyntaf oedd newid iaith. Rwy’n cofio geiriau mam o fewn diwrnod wedi cyrraedd Bridell: ‘Wês, wês, mae’n nhw’n gweud fan hyn’. Rhaid oedd cyfarwyddo â thafodiaith Sir Benfro, a hefyd mwy o Gymraeg. Roedd tre Llanymddyfri yn Seisnigaidd, effaith y rheilffordd yn cysylltu’r ardal â Lloegr, ond roedd Cymraeg yn gryf ym Mridell, llawer o’r bobol hŷn yn anesmwyth gyda’r iaith fain.

Y newid mwya pwysig oedd byw mewn tŷ. Yn Llanymddyfri roeddem yn byw mewn fflat ar yr ail lawr o Church House. Rhaid oedd cario pob peth lan neu lawr pedair esgynfa o risiau. Nawr roeddem yn byw mewn tŷ modern. Ond, doedd dim trydan, dim dŵr o gronfa cyhoeddus ond o ffynnon hanner milltir i ffwrdd, dim carthffosiaeth ond septic tanc i’w wagau bob blwyddyn.

A’r ysgol! Ysgol fach a dau ddosbarth, yr ystafell fwyaf i’r disgyblion o saith oed lan; yr ystafell fach i’r rhai dan saith. Dim trydan, dim gwres canolog ond tận glô, a dim dŵr. Byddai dŵr i yfed neu i olchi llestri yn dod mewn stên o drws nesa. Does fawr o gof gennyf am olchi dwylo. Naill ai bod y weithred o olchi dwylo ddim yn cofrestru ar ymennydd bachgen wyth mlwydd oed, neu……..h’m!!! Roedd y toiledau yn gweithio heb ddŵr. Dau floc o dai bach yn agor i selar a garthwyd pan oedd angen. Yn Saesneg oedd y mwyaf o’r gwersi, ond Cymraeg oedd iaith yr iard, yn wahanol i heddiw.

Yr eglwys! Eglwys fach mewn mynwent gron, ar safle cynhanesyddol. Roedd eglwys Llanymddyfri yn eglwys tref gyda chôr mewn gynnau a gwenwisgoedd. Ym Mridell doedd ddim lle yn y gangell i gôr, ond roedd y gynulleidfa yn ddigon o gôr, yn canu’r emynau Cymraeg gyda nerth ac argyhoeddiad. Dyma lle y daeth ein hetifeddiaeth emynyddol yn rhan ohonof. Roedd yr aelodau hefyd yn wrandawyr da, nid iddyn nhw rhyw bwt o bregeth pum munud.

A beth am yr aelodau? Pobol cefn gwlad, twymgalon, caredig, a haelionus. Bonws ariannol i offeiriad pryd hynny oedd yr offrwm Pasg, a oedd hefyd yn farometer o barch yr aelodau at eu hoffeiriad. Bob blwyddyn roedd na offrwm Pasg da. Rwy’n cofio nhad wedi bod yn sgwrsio a siarad siop gyda ficer Eglwyswen. Roedd y ddau yn gyfeillion ac o ardal ddiwydiannol Llanelli. Roeddent yn hollol gytun: ‘Ma’ hon yn ardal garedig’.